Tudalen 1 o 1

"Cymunedau Dwyieithog y Byd", Caernarfon 2 Tachwedd 2011

PostioPostiwyd: Sul 11 Medi 2011 5:57 pm
gan marikafusser
Hoffwn eich gwahodd i arddangosfa a thrafodaeth ar y thema “Cymunedau Dwyieithog i Byd” ar ddydd Mercher, 2 Tachwedd 2011 yn Stiwdio 1, Galeri, Caernarfon. Trefnir y digwyddiad gan Ganolfan ESRC dros Ymchwil i Theori ac Ymarfer Dwyieithrwydd ym Mhrifysgol Bangor fel rhan o Ŵyl Gwyddorau Cymdeithas yr ESRC. Bydd croeso i bawb a’r mynediad am ddim.
Bydd yr arddangosfa yn cynnwys adroddiadau o lygad y ffynnon gan siaradwyr o ieithoedd lleiafrifol ledled y byd ynghylch hawliau iaith, defnydd iaith mewn bywyd preifat a chyhoeddus ac unrhyw ymgyrchoedd cymunedol.
Gyda’r nos cynhelir trafodaeth panel gyda siaradwyr y Fasgeg, Tibeteg, Lombardeg, Galiseg a Ndebele. Dan gadeiryddiaeth Bethan Jones Parry bydd y gynulleidfa yn cael holi’r panelwyr, a bydd cyfle i bawb rannu syniadau ar sut i wneud y gorau o’n hieithoedd bach. Ceir hefyd sgwrs gan yr Athro Margaret Deuchar, y Dr Peredur Davies a Marika Fusser am ganlyniadau ymchwil y Ganolfan Ddwyieithrwydd yn ogystal a cwis ieithoedd bach.
Dyma raglen y diwrnod:
4-7yh: arddangosfa
6-7yh: bwffe
7-8.30yh: sgwrs a thrafodaeth panel
Bydd yr arddangosfa yn agored i bawb daro mewn, ond nifer cyfyngedig o lefydd sy ar gael ar gyfer y bwffe a’r drafodaeth. I gofrestru ar gyfer y noson, cysylltwch â ni erbyn 17 Hydref drwy e-bostio m.fusser@bangor.ac.uk neu ffonio (01248) 382559.