Cyrsiau cyfrwng Cymraeg Cyfryngau Cymdeithasol

Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb. Dim Gigs!

Cymedrolwr: ceribethlem

Rheolau’r seiat
Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb, ond dim Gigs! Cofiwch gynnwys y drindod sanctaidd yn y teitl sef - Dyddiad : Beth : Lleoliad - e.e. 05.01.07 : Protest Achub ein Gwiwerod Coch : Cae, Pentrecagal. Rhowch gymaint o fanylion pellach ag sy'n bosib yn y neges ei hunan, gan gynnwys amser y digwyddiad, lleoliad, pris (os yn berthnasol), beth sy'n digwydd ac ati. Er mwyn cael y digwyddiad i ymddangos yn y calendr hefyd, cofiwch ddewis y tab 'Digwyddiad Calendr' ar waelod y dudalen pan yn llunio'r neges, a mewnddodwch y dyddiad perthnasol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cyrsiau cyfrwng Cymraeg Cyfryngau Cymdeithasol

Postiogan RIB » Mer 14 Medi 2011 10:43 am

Busnes y Cyfryngau Cymdeithasol

Dyddiadau -
Caernarfon(Cymraeg) 17/18 Hydref
Caerdydd(Saesneg) 20/21 Hydref
Caerdydd(Cymraeg) 14/15 Tachwedd


'Mae'r cwrs yma wedi agor llygaid i ffordd newydd o feddwl am ddefnyddio'r we ar ran y cwmni' Nora Ostler (cwrs Gorffennaf 2011)

Cynhelir y cwrs yma drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg. Gweler y dyddiadau am fanylion iaith pob cwrs.

Mae nifer o fusnesau bellach yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol er mwyn creu perthnasau ymglymol gyda pobl a marchnadoedd, cysylltu am gynnyrch, cynnig bargeinion arbennig, datblygu ffyddlondeb cwsmer ac i ymateb i gwestiynnau a thrafodaethau am eu brand.

- Sut mae modd i chi ddefnyddio teclynnau’r cyfryngau digidol er mwyn cyrraedd yr amcanion busnes yma?
- Sut gall y cyfryngau digidol gael ei ddefnyddio er mwyn annog creadigrwydd, taclo problemau, galluogi cydweithredu, datblygu cynulleidfaoedd ac adrodd straeon?
- Pa declynnau sy’n addas ar gyfer eich gwaith chi a beth mae’n nhw’n ei wneud?
- Sut wyt ti’n mynd o gofrestru i gael cyfri ar declyn arlein i’w ddefnyddio’n effeithol ar brosiect go iawn?

Bydd y cyfranogwyr yn cael y cyfle i archwilio’r cwestiynnau yma a chael profiad ymarferol ar lwyfannau sy’n boblogaidd ar hyn o bryd.

Pwy ddylai fynychu? -

Unigolion sy’n gweithio mewn marchnata, hyrwyddo neu datblygu busnesau bychan a mawrion yn ogystal a sefydliadau.

MWY O WYBODAETH -

I SICRHAU LLE AR GWRS NEU I OFYN CWESTIWN CYSYLLTWCH Â –
caernarfon@cyfle.co.uk / 01286 668003


Cost y cwrs - £250+TAW
RIB
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 30
Ymunwyd: Mer 13 Ion 2010 12:23 pm

Dychwelyd i Digwyddiadau

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron