Tudalen 1 o 1

Dathlu 200mlwyddiant Henry Richard, 23 Mawrth 2012, Tregaron

PostioPostiwyd: Llun 20 Chw 2012 9:38 pm
gan Cymdeithas y Cymod
Bydd Cymdeithas y Cymod yn dathlu Henry Richard, yr "Apostol Heddwch" yng ngwesty'r Talbot, Tregaron ar nos Wener a bore Sadwrn, 23-24 Mawrth 2012. Bron yn union 200 mlynedd ers ei eni ar 3 Ebrill 1812, bydd y Gymdeithas yn cyfarfod yn ei dref enedigol i ddathlu ei waith dros heddwch rhwng cenhedloedd y byd gyda sgwrs ar y nos Wener ac oedfa ar y bore Sadwrn.
Nos Wener, 23 Mawrth, 7.30yh, ceir sgwrs gan Gwyn Griffiths am fywyd a gwaith Henry Richard yn y Talbot. Cyhoeddir llyfr newydd Gwyn, 'Henry Richard - Apostle of Peace and Welsh Patriot', ym mis Mawrth eleni. Ynddo mae'n olrhain hanes y dyn hynod yma o Dregaron a gododd faterion Cymreig ar lawr Tŷ'r Cyffredin am y tro cyntaf erioed ac a drefnodd gyfres o gynadleddau heddwch dylanwadol ar draws Ewrop ganol y 19eg ganrif. Bydd Gwyn yn rhannu peth o'i ymchwil gyda'r gynulleidfa nos Wener. Bydd croeso i bawb.
Fore Sadwrn, 24 Mawrth, 10.30yb, bydd y Dr Robin Gwyndaf yn arwain oedfa fach i gofio Henry Richard wrth ei gofgolofn yn sgwâr Tregaron. Bydd croeso cynnes i bawb.
Am fanylion pellach cysylltwch â Marika Fusser ar 01286-830913 neu cymdeithasycymod@btinternet.com.
Gallwch ddarllen erthygl gan Gwyn Griffiths am Henry Richard ar http://www.cymdeithasycymod.org.uk/henryrichard.htm.