Tudalen 1 o 1

25.3.12 : Gweithdy Gwerin CLERA : Llanberis (1/3)

PostioPostiwyd: Maw 28 Chw 2012 11:19 pm
gan cwrwgl
Gweithdy Gwerin CLERA Llanberis (1/3)

Y gyntaf mewn cyfres o weithdai cerddoriaeth draddodiadol, i offerynnau acwstig.

Ddydd Sul 25ain Mawrth 2012
12yh - 3.30yh
Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis

Dosbarthiadau:
1. Sylfaen: Stephen Rees - Dechrau dysgu chwarae o'r glust.
2. Canolradd: Sioned Webb - Alaw & chyfeiliant.
3. Uwch: Huw Roberts - Cyfeilio i ddawns.

£7.50 / £12 (tocyn teulu) / £5 (gostyngiadau),
Cyfyngir y niferoedd i 10 ymhob dosbarth.
Am wybodaeth pellach / ffurflen gofrestru cysylltwch a:
catrin@sesiwn.org.uk
(01286) 831344
http://www.clera.org

(Noder: Mae £4 o dal i barcio ym Mharc Padarn drwy'r dydd - mae hyn yn dal cyffredinol yn holl faesydd parcio Llanberis)

Gweithdai pellach yn Llanberis:
Dydd Sul 22 Ebrill 2012, 1yh - 4.30yh
Dydd Sadwrn 19 Mai 2012, 1yh - 4.30yh

Gweithdai pellach yng Nghanolfan Eirianfa, Factory Place, Dinbych:
Dydd Sadwrn 31 Mawrth 2012, 1.30pm - 5pm
Dydd Sadwrn 12 Mai 2012, 1.30pm - 5pm
Dydd Sadwrn 14 Gorffennaf 2012, 1.30pm - 5pm

………………………………………………………………………..

Cefndir:

Sesiwn Dros Gymru – Gweithdai Gwerin CLERA 2012
Galwad ar offerynwyr o bob lefel i gymeryd rhan mewn digwyddiad cerddorol newydd!!
Dystiwch y delyn, tiwniwch eich ffliwt a thynnwch y ffidil o'r to! 

Mae Clera wrthi yn trefnu rhaglen uchelgeisiol o weithdai gwerin dan yr enw "Sesiwn Dros Gymru", gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru. Y bwriad yw cynnal 40 o weithdai offerynnol (hanner diwrnod) dros gyfnod o flwyddyn, mewn 4 ardal wahanol (gogledd-ddwyrain / gogledd-orllewin / de-orllewin / de-ddwyrain), sef 10 gweithdy i bob ardal.

Gweithdai i ddysgu a chwarae alawon traddodiadol Cymreig gyda thiwtoriaid profiadol. Os ydych yn chwarae ffidil, ffliwt, chwiban, telyn neu unrhyw offeryn acwstig sy'n addas ar gyfer cerddoriaeth werin, cewch ymuno a'r dosbarth sy'n addas i chi.
Bydd 3 dosbarth ym mhob gweithdy, ar gyfer gwahanol lefelau o allu a phrofiad cerddorol ac mi fydd niferoedd wedi eu cyfyngu i 10 mewn dosbarth.
Mi fydd dosbarth lefel sylfaen arbennig yn Llanberis a Dinbych yn canolbwyntio ar ddechrau dysgu sut i chwarae alawon Cymreig o'r glust - addas iawn i offerynnwyr clasurol sy'n newydd sbon i gerddoriaeth draddodiadol. 

Dewch am jig! 8)

Re: 25.3.12 : Gweithdy Gwerin CLERA : Llanberis (1/3)

PostioPostiwyd: Gwe 09 Maw 2012 12:14 pm
gan cwrwgl
Ffurflen gofrestru

Re: 25.3.12 : Gweithdy Gwerin CLERA : Llanberis (1/3)

PostioPostiwyd: Maw 20 Maw 2012 7:32 pm
gan cwrwgl
Llefydd ar ol yng ngweithdy Llanberis os hoffech fynychu.