22.4.12 : Gweithdy Gwerin CLERA : Llanberis (2/3)

Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb. Dim Gigs!

Cymedrolwr: ceribethlem

Rheolau’r seiat
Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb, ond dim Gigs! Cofiwch gynnwys y drindod sanctaidd yn y teitl sef - Dyddiad : Beth : Lleoliad - e.e. 05.01.07 : Protest Achub ein Gwiwerod Coch : Cae, Pentrecagal. Rhowch gymaint o fanylion pellach ag sy'n bosib yn y neges ei hunan, gan gynnwys amser y digwyddiad, lleoliad, pris (os yn berthnasol), beth sy'n digwydd ac ati. Er mwyn cael y digwyddiad i ymddangos yn y calendr hefyd, cofiwch ddewis y tab 'Digwyddiad Calendr' ar waelod y dudalen pan yn llunio'r neges, a mewnddodwch y dyddiad perthnasol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

22.4.12 : Gweithdy Gwerin CLERA : Llanberis (2/3)

Postiogan cwrwgl » Iau 29 Maw 2012 2:23 pm

Gweithdy CLERA Llanberis (2/3)

Yr ail mewn cyfres o weithdai cerddoriaeth draddodiadol, i offerynnau acwstig.

Ddydd Sul, 22ain Ebrill 2012
1pm - 4.30pm
Amgueddfa Lechi Cymru, Parc Padarn, Llanberis LL55 4TY

Dosbarthiadau:
1. Sylfaen: Stephen Rees - Dechrau dysgu chwarae o'r glust.
2. Canolradd: Sioned Webb - Alaw & chyfeiliant.
3. Uwch: Huw Roberts - Chwarae Alawon.

£7.50 (oedolion) / £5 (plant) / £12 (tocyn teulu).
Cyfyngir y niferoedd i 10 ymhob dosbarth.

Am wybodaeth pellach / ffurflen gofrestru cysylltwch a:
catrin@sesiwn.com
(01286) 831344
http://www.sesiwn.com

Gweithdy pellach yn Llanberis:
Dydd Sadwrn, 19 Mai 2012, 1pm - 4.30pm
Tiwtoriaid: Sioned Webb / Patrick Rimes / Stephen Rees.

Noder: Mae £4 o dal i barcio ym Mharc Padarn drwy'r dydd
(mae hyn yn dal gyffredinol yn holl faesydd parcio Llanberis).

Gweithdai pellach yng Nghanolfan Eirianfa, Factory Place, Dinbych:
Dydd Sadwrn 31 Mawrth 2012, 1.30pm - 5pm
Dydd Sadwrn 12 Mai 2012, 1.30pm - 5pm
Dydd Sadwrn 14 Gorffennaf 2012, 1.30pm - 5pm

………………………………………………………………………..

Cefndir:

Sesiwn Dros Gymru – Gweithdai Gwerin CLERA 2012
Galwad ar offerynwyr o bob lefel i gymeryd rhan mewn digwyddiad cerddorol newydd!!
Dystiwch y delyn, tiwniwch eich ffliwt a thynnwch y ffidil o'r to! 

Mae Clera wrthi yn trefnu rhaglen uchelgeisiol o weithdai gwerin dan yr enw "Sesiwn Dros Gymru", gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru. Y bwriad yw cynnal 40 o weithdai offerynnol (hanner diwrnod) dros gyfnod o flwyddyn, mewn 4 ardal wahanol (gogledd-ddwyrain / gogledd-orllewin / de-orllewin / de-ddwyrain), sef 10 gweithdy i bob ardal.

Gweithdai i ddysgu a chwarae alawon traddodiadol Cymreig gyda thiwtoriaid profiadol. Os ydych yn chwarae ffidil, ffliwt, chwiban, telyn neu unrhyw offeryn acwstig sy'n addas ar gyfer cerddoriaeth werin, cewch ymuno a'r dosbarth sy'n addas i chi.
Bydd 3 dosbarth ym mhob gweithdy, ar gyfer gwahanol lefelau o allu a phrofiad cerddorol ac mi fydd niferoedd wedi eu cyfyngu i 10 mewn dosbarth.
Mi fydd dosbarth lefel sylfaen arbennig yn Llanberis a Dinbych yn canolbwyntio ar ddechrau dysgu sut i chwarae alawon Cymreig o'r glust - addas iawn i offerynnwyr clasurol sy'n newydd sbon i gerddoriaeth draddodiadol. 

Dewch am jig! 8)
cwrwgl
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 244
Ymunwyd: Iau 20 Ion 2005 9:54 pm

Re: 22.4.12 : Gweithdy Gwerin CLERA : Llanberis (2/3)

Postiogan cwrwgl » Maw 17 Ebr 2012 1:39 pm

Alaw leol y dydd y mis yma yw'r glincar "Marchogion yr Wyddfa".
Alaw y dydd fis dwetha oedd "Bwlch Llanberis", felly chwarae drwy honno unwaith neu ddwy wedyn arwain yn syth i mewn i Marchogion yr Wyddfa (sy'n weddol gyflym, i'w chwarae gyda lilt).

BG27a MarchogionYrWyddfa.jpg
BG27a MarchogionYrWyddfa.jpg (152.88 KiB) Dangoswyd 4967 o weithiau
cwrwgl
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 244
Ymunwyd: Iau 20 Ion 2005 9:54 pm


Dychwelyd i Digwyddiadau

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai