Tudalen 1 o 1

19.5.12 : Gweithdy Gwerin CLERA : Llanberis (3/3)

PostioPostiwyd: Gwe 04 Mai 2012 12:00 pm
gan cwrwgl
Gweithdy CLERA Llanberis (3/3)
Y drydedd mewn cyfres o weithdai cerddoriaeth draddodiadol.

Ddydd Sadwrn, 19 Mai 2012
1pm - 4.30pm
Amgueddfa Lechi Cymru, Parc Padarn, Llanberis LL55 4TY

Dosbarthiadau:
1. Sylfaen: Stephen Rees - Dechrau dysgu chwarae o'r glust.
2. Canolradd: Sioned Webb - Alaw & chyfeiliant.
3. Uwch: Patrick Rimes - Chwarae Alawon

£7.50 / £12 (tocyn teulu) / £5 (plant),
Cyfyngir y niferoedd i 10 ymhob dosbarth.

Am wybodaeth pellach / ffurflen gofrestru cysylltwch a:
catrin@sesiwn.com
(01286) 831344
http://www.sesiwn.com

Noder: Mae £4 o dal i barcio ym Mharc Padarn drwy'r dydd
(mae hyn yn dal gyffredinol yn holl faesydd parcio Llanberis).

Bydd y gwersi yn dechrau yn brydlon am 1.15pm!

GWYLIWCH Y GOFOD!
Gweithdai pellach yn cael eu cynnal ym Mhen Llyn (Mai - Awst), ac yn Nhy Siamas Dolgellau ym mis Gorffennaf a mis Hydref. Posibilrwydd o weithdy arall yn Llanberis fis Medi. Dyddiad i'w gadarnhau.
Manylion ar y wefan http://www.sesiwn.com

Gweithdai pellach yng Nghanolfan Eirianfa, Factory Place, Dinbych:
Dydd Sadwrn 12 Mai 2012, 1.30pm - 5pm
Dydd Sadwrn 14 Gorffennaf 2012, 1.30pm - 5pm

………………………………………………………………………..

Cefndir:

Sesiwn Dros Gymru – Gweithdai Gwerin CLERA 2012
Galwad ar offerynwyr o bob lefel i gymeryd rhan mewn digwyddiad cerddorol newydd!!
Dystiwch y delyn, tiwniwch eich ffliwt a thynnwch y ffidil o'r to! 

Mae Clera wrthi yn trefnu rhaglen uchelgeisiol o weithdai gwerin dan yr enw "Sesiwn Dros Gymru", gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru. Y bwriad yw cynnal 40 o weithdai offerynnol (hanner diwrnod) dros gyfnod o flwyddyn, mewn 4 ardal wahanol (gogledd-ddwyrain / gogledd-orllewin / de-orllewin / de-ddwyrain), sef 10 gweithdy i bob ardal.

Gweithdai i ddysgu a chwarae alawon traddodiadol Cymreig gyda thiwtoriaid profiadol. Os ydych yn chwarae ffidil, ffliwt, chwiban, telyn neu unrhyw offeryn acwstig sy'n addas ar gyfer cerddoriaeth werin, cewch ymuno a'r dosbarth sy'n addas i chi.
Bydd 3 dosbarth ym mhob gweithdy, ar gyfer gwahanol lefelau o allu a phrofiad cerddorol ac mi fydd niferoedd wedi eu cyfyngu i 10 mewn dosbarth.
Mi fydd dosbarth lefel sylfaen arbennig yn Llanberis a Dinbych yn canolbwyntio ar ddechrau dysgu sut i chwarae alawon Cymreig o'r glust - addas iawn i offerynnwyr clasurol sy'n newydd sbon i gerddoriaeth draddodiadol. 

Dewch am jig! 8)

Re: 19.5.12 : Gweithdy Gwerin CLERA : Llanberis (3/3)

PostioPostiwyd: Gwe 04 Mai 2012 12:05 pm
gan cwrwgl
Alaw y dydd yw Jig Arglwydd Caernarfon, y fersiwn allan o lyfr Blodau'r Grug, weler'r atodiad.