Clwb Alawon Ty Crwn : Canolfan Felin Uchaf Rhoshirwaun

Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb. Dim Gigs!

Cymedrolwr: ceribethlem

Rheolau’r seiat
Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb, ond dim Gigs! Cofiwch gynnwys y drindod sanctaidd yn y teitl sef - Dyddiad : Beth : Lleoliad - e.e. 05.01.07 : Protest Achub ein Gwiwerod Coch : Cae, Pentrecagal. Rhowch gymaint o fanylion pellach ag sy'n bosib yn y neges ei hunan, gan gynnwys amser y digwyddiad, lleoliad, pris (os yn berthnasol), beth sy'n digwydd ac ati. Er mwyn cael y digwyddiad i ymddangos yn y calendr hefyd, cofiwch ddewis y tab 'Digwyddiad Calendr' ar waelod y dudalen pan yn llunio'r neges, a mewnddodwch y dyddiad perthnasol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Clwb Alawon Ty Crwn : Canolfan Felin Uchaf Rhoshirwaun

Postiogan cwrwgl » Llun 14 Mai 2012 9:51 am

Sesiwn Dros Gymru 2012
Gweithdai Gwerin CLERA

CLWB ALAWON TY CRWN

Cyfres o weithdai gwerin misol Clera, ym Mhen Llyn.
Dysgu alawon Cymreig gydag Anna Georgina.
Mae'r dosbarthiadau yn addas i chwaraewyr offerynau acwstig o bob gallu.

Tŷ Crwn, Canolfan Felin Uchaf, Rhoshirwaun, Pwllheli, Gwynedd  LL53 8HS

Ar y nosweithiau Gwener canlynol:
Mai 18
Mehefin 15
Gorfennaf 13
Awst 17

7pm - 8.30pm
£2.50 y wers

http://www.sesiwn.com
(01758) 770454
......................................

Cefndir:

Sesiwn Dros Gymru – Gweithdai Gwerin CLERA 2012
Galwad ar offerynwyr o bob lefel i gymeryd rhan mewn digwyddiad cerddorol newydd!!
Dystiwch y delyn, tiwniwch eich ffliwt a thynnwch y ffidil o'r to!

Mae Clera wrthi yn trefnu rhaglen uchelgeisiol o weithdai gwerin dan yr enw "Sesiwn Dros Gymru", gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru. Y bwriad yw cynnal 40 o weithdai offerynnol (hanner diwrnod) dros gyfnod o flwyddyn, mewn 4 ardal wahanol (gogledd-ddwyrain / gogledd-orllewin / de-orllewin / de-ddwyrain), sef 10 gweithdy i bob ardal.

Gweithdai i ddysgu a chwarae alawon traddodiadol Cymreig gyda thiwtoriaid profiadol. Os ydych yn chwarae ffidil, ffliwt, chwiban, telyn neu unrhyw offeryn acwstig sy'n addas ar gyfer cerddoriaeth werin, cewch ymuno a'r dosbarth sy'n addas i chi.
Bydd 3 dosbarth ym mhob gweithdy, ar gyfer gwahanol lefelau o allu a phrofiad cerddorol ac mi fydd niferoedd wedi eu cyfyngu i 10 mewn dosbarth.
Mi fydd dosbarth lefel sylfaen arbennig yn Llanberis a Dinbych yn canolbwyntio ar ddechrau dysgu sut i chwarae alawon Cymreig o'r glust - addas iawn i offerynnwyr clasurol sy'n newydd sbon i gerddoriaeth draddodiadol.

Dewch am jig!
cwrwgl
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 244
Ymunwyd: Iau 20 Ion 2005 9:54 pm

Dychwelyd i Digwyddiadau

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron