Gweithdy Gwerin CLERA Dinbych (3/3)
Y drydedd mewn cyfres o weithdai cerddoriaeth draddodiadol, i offerynnau acwstig, yn Ninbych.
Ddydd Sadwrn 14 Gorffennaf 2012
1.30yh - 5yh
Canolfan Eirianfa, Factory Place, Dinbych LL16 3TS
Dosbarthiadau:
1. Sylfaen: Bryn Davies - Dechrau dysgu chwarae o'r glust.
2. Canolradd: Dave Ball - Alaw & chyfeiliant.
3. Uwch: Jem Hammond - Cyfeilio i ddawns.
£7.50 / £12 (tocyn teulu) / £5 (gostyngiadau),
Cyfyngir y niferoedd i 10 ymhob dosbarth.
Am wybodaeth pellach / ffurflen gofrestru cysylltwch a:
terry@sesiwn.com
(01824) 790072
Sesiwn werin yn yr Hope&Anchor, Dinbych o 7.30yh ymlaen. Am ddim. Croeso i bawb!
Maynlion llawn ar y wefan:
http://www.sesiwn.com/sesiwn/workshops/Dinbych3.html
………………………………………………………………………..
Cefndir:
Sesiwn Dros Gymru – Gweithdai Gwerin CLERA 2012
Galwad ar offerynwyr o bob lefel i gymeryd rhan mewn digwyddiad cerddorol newydd!!
Dystiwch y delyn, tiwniwch eich ffliwt a thynnwch y ffidil o'r to!
Mae Clera wrthi yn trefnu rhaglen uchelgeisiol o weithdai gwerin dan yr enw "Sesiwn Dros Gymru", gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru. Y bwriad yw cynnal 40 o weithdai offerynnol (hanner diwrnod) dros gyfnod o flwyddyn, mewn 4 ardal wahanol (gogledd-ddwyrain / gogledd-orllewin / de-orllewin / de-ddwyrain), sef 10 gweithdy i bob ardal.
Gweithdai i ddysgu a chwarae alawon traddodiadol Cymreig gyda thiwtoriaid profiadol. Os ydych yn chwarae ffidil, ffliwt, chwiban, telyn neu unrhyw offeryn acwstig sy'n addas ar gyfer cerddoriaeth werin, cewch ymuno a'r dosbarth sy'n addas i chi.
Bydd 3 dosbarth ym mhob gweithdy, ar gyfer gwahanol lefelau o allu a phrofiad cerddorol ac mi fydd niferoedd wedi eu cyfyngu i 10 mewn dosbarth.
Mi fydd dosbarth lefel sylfaen arbennig yn Llanberis a Dinbych yn canolbwyntio ar ddechrau dysgu sut i chwarae alawon Cymreig o'r glust - addas iawn i offerynnwyr clasurol sy'n newydd sbon i gerddoriaeth draddodiadol.
Dewch am jig!