Pererindod yn erbyn awyrennau di-beilot 23 Mehefin Aberporth

Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb. Dim Gigs!

Cymedrolwr: ceribethlem

Rheolau’r seiat
Beth sy 'mlaen? Pob digwyddiad Diwylliannol, Gwleidyddol, Ieithyddol ayb, ond dim Gigs! Cofiwch gynnwys y drindod sanctaidd yn y teitl sef - Dyddiad : Beth : Lleoliad - e.e. 05.01.07 : Protest Achub ein Gwiwerod Coch : Cae, Pentrecagal. Rhowch gymaint o fanylion pellach ag sy'n bosib yn y neges ei hunan, gan gynnwys amser y digwyddiad, lleoliad, pris (os yn berthnasol), beth sy'n digwydd ac ati. Er mwyn cael y digwyddiad i ymddangos yn y calendr hefyd, cofiwch ddewis y tab 'Digwyddiad Calendr' ar waelod y dudalen pan yn llunio'r neges, a mewnddodwch y dyddiad perthnasol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pererindod yn erbyn awyrennau di-beilot 23 Mehefin Aberporth

Postiogan Cymdeithas y Cymod » Iau 07 Meh 2012 2:00 pm

Sadwrn, 23 Mehefin, 3yp, fferm yr Hendre, Blaenannerch, SA43 2AN (yn ymyl
canolfan yr ayrennau di-beilot, Parc Aberporth): Gwasanaeth o edifeirwch am
rôl Aberporth a Chymru yn natblygiad awyrennau di-beilot milwrol. Trefnir
gan Gymdeithas y Cymod. Am fanylion a chyfarwyddiadau gweler
www.cymdeithasycymod.org.uk/temp/gwahod ... th2012.pdf. Am gwestiynau
pellach cysylltwch â cymdeithasycymod@btinternet.com; 01286-830913.

Mae’r Hendre’n enwog drwy Gymru fel cartref y diweddar Archdderwydd a’r Prifardd Dic Jones, ac mae Cymdeithas y Cymod yn ddiolchgar iawn i deulu’r Hendre am ganiatáu i ni ddefnyddio’r fferm i wneud ein safiad.

Gadewch i ni ddod at ein gilydd ar dir sy’n cyffwrdd â maes awyr Aberporth i gofio am y bobl ddiniwed a laddwyd gan awyrennau di-beilot, ac i ddatgan ein cywilydd bod daear ac awyr Cymru’n cael eu defnyddio i ymarfer hedfan y robotiaid hyn.

‘Drones’ yw’r gair Saesneg amdanynt, ‘Adar Angau’ yw un cynnig ar roi gair Cymraeg iddynt.

‘Ei dawn i wylo yw gwerth dynoliaeth’, meddai Dic Jones – dyma gyfle i ni gydymdeimlo â theuluoedd y rhai a gollodd eu bywydau o ganlyniad i ymosodiadau’r Adar Angau, a chyfle hefyd i ni droi ein dagrau yn gân ac yn weithred.

Yn ystod y gwasanaeth, byddwn yn cyflwyno deiseb i Lywydd y Gymdeithas, y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor, gan ofyn iddo ei throsglwyddo at sylw’r Cynulliad. Geiriau’r ddeiseb yw:
‘Mae awyrennau dibeilot yn ddatblygiad pwysig a pheryglus yn arfogaeth rhyfela. Defnyddir yr awyrennau dibeilot hyn yn rhwydd ac yn ddiofal o fywydau'r bobl ddiniwed sy'n aml yn cael eu lladd. Erfyniwn ar i Lywodraeth Cymru dynnu'n ôl y gefnogaeth a roddwyd i awyrennau di-beilot y DU i gael eu profi yn Aberporth ac i hedfan dros ran helaeth o Gymru.’

Mae modd arwyddo'r ddeiseb yn electronig tan 23 Mehefin ar https://www.cynulliadcymru.org/epetitio ... pet_id=710
Cymdeithas y Cymod
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 11
Ymunwyd: Llun 14 Chw 2011 9:48 pm

Dychwelyd i Digwyddiadau

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron