Tudalen 1 o 1

21.7.12 : Gweithdy Gwerin CLERA : Ty Siamas Dolgellau

PostioPostiwyd: Mer 13 Meh 2012 1:25 pm
gan cwrwgl
Gweithdy Gwerin CLERA
Sesiwn Dros Gymru 2012
Ty Siamas Dolgellau
Dydd Sadwrn 21 Gorffennaf 2012
1.30 - 5pm

Dosbarthiadau:
Dosbarth Sylfaen - Angharad Jenkins (Calan / DnA)
Dosbarth Canolig - Idris Morris Jones (Gwerinos / Pigyn Clust)
Dosbarth Uwch - Rhiain Bebb (Rhes Ganol)

Dosbarthiadau yn addas i unrhyw offeryn gwerin neu acwstic.
Cost: £7.50 / £5 plant / £12 teulu (1 oedolyn + plant, oedolyn ychwanegol £5)

Manylion llawn ar http://www.sesiwn.com
neu gysylltu gyda catrin@sesiwn.com / (01286) 831344


GWYLIWCH Y GOFOD!
Gweithdai pellach yn cael eu cynnal ym Mhen Llyn (Mai - Awst) dan yr enw CLWB ALAWON TY CRWN yng nghanolfan FelinUchaf Rhoshirauwn, ac yn Nhy Siamas Dolgellau 13 Hydref.
Posibilrwydd o weithdy arall yn Llanberis fis Medi ac/neu Bangor fis Hydref. Dyddiadau i'w cadarnhau. Gwyliwch y gofod.
Gweithdy yng Nghanolfan Eirianfa, Factory Place, Dinbych: Dydd Sadwrn 14 Gorffennaf 2012, 1.30pm - 5pm

Manylion ar y wefan http://www.sesiwn.com

………………………………………………………………………..

Cefndir:

Sesiwn Dros Gymru – Gweithdai Gwerin CLERA 2012
Galwad ar offerynwyr o bob lefel i gymeryd rhan mewn digwyddiad cerddorol newydd.
Dystiwch y delyn, tiwniwch eich ffliwt a thynnwch y ffidil o'r to! 

Mae Clera wrthi yn trefnu rhaglen uchelgeisiol o weithdai gwerin dan yr enw "Sesiwn Dros Gymru", gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru. Y bwriad yw cynnal 40 o weithdai offerynnol (hanner diwrnod) dros gyfnod o flwyddyn, mewn 4 ardal wahanol (gogledd-ddwyrain / gogledd-orllewin / de-orllewin / de-ddwyrain), sef 10 gweithdy i bob ardal.

Gweithdai ydynt i ddysgu a chwarae alawon traddodiadol Cymreig, gyda thiwtoriaid profiadol. Os ydych yn chwarae ffidil, ffliwt, chwiban, telyn neu unrhyw offeryn acwstig sy'n addas ar gyfer cerddoriaeth werin, cewch ymuno a'r dosbarth sy'n addas i chi.
Bydd 3 dosbarth ym mhob gweithdy, ar gyfer gwahanol lefelau o allu a phrofiad cerddorol ac mi fydd niferoedd wedi eu cyfyngu i 10 mewn dosbarth.
Mi fydd dosbarth lefel sylfaen arbennig yn Llanberis a Dinbych yn canolbwyntio ar ddechrau dysgu sut i chwarae alawon Cymreig o'r glust - addas iawn i offerynnwyr clasurol sy'n newydd sbon i gerddoriaeth draddodiadol. 

Dewch am jig! 8)