Tudalen 1 o 1

Cofio Hiroshima a gwrthwynebu Trident yng Nghymru, 6 Awst

PostioPostiwyd: Llun 30 Gor 2012 8:40 pm
gan Cymdeithas y Cymod
Bydd Cymdeithas y Cymod yn cynnal gwasanaeth i gofio bom atomig Hiroshima ac i wrthwynebu arfau niwclear yng Nghymru ar fore Llun, 6 Awst, am 11yb ym mhabell Cytûn ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol. Union 67 mlynedd ar ôl bom Hiroshima, a laddodd 130,000 o bobl mewn chwinciad, bydd y gymdeithas yn cofio am yr holl bobl a ddioddefodd ac sydd yn dal i ddioddef mewn rhyfeloedd. Bydd hefyd yn lleisio ei gwrthwynebiad i'r awgrym y gallai arfau niwclear y DU, llongau tanfor Trident, ddod i Aberdaugleddau petai'r Alban yn mynd yn annibynnol. Y Parchedig Owain Llŷr Evans fydd yng ngofal y gwasanaeth, a bydd croeso cynnes i bawb.

Meddai Marika Fusser, Cydlynydd Cymdeithas y Cymod: "Wrth gofio am y cannoedd ar filoedd o bobl a gafodd eu lladd neu eu niweidio drwy'r bom atomig cyntaf erioed byddwn hefyd yn lleisio ein gwrthwynebiad i system arfau niwclear Prydain, ac yn enwedig i ddatganiad Carwyn Jones y buasai pobl Cymru'n rhoi croeso iddynt yn Aberdaugleddau. Os gwnaethoch chi feddwl hefyd, 'Sgwn i yn enw pwy mae o'n siarad, ddim yn fy enw i beth bynnag', yna ymunwch â ni i ddangos eich gwrthwynebiad."

Dilynir gwasanaeth Cymdeithas y Cymod gan gyfarfod "Callia Carwyn", a drefnir gan CND a mudiadau eraill yn y Babell Heddwch (uned 113-114).