Tudalen 1 o 1

19.1.13 : Gweithdy Gwerin CLERA : Bangor

PostioPostiwyd: Mer 19 Rhag 2012 2:22 pm
gan cwrwgl
GWEITHDY GWERIN CLERA BANGOR
Sesiwn Dros Gymru 2012-13

Dydd Sadwrn, 19 Ionawr 2013
1.30pm - 5.30pm

Berea Newydd, Rhodfa Dewi Sant, Ffordd Penrhos, Bangor LL57 2AX

Dosbarthiadau:
Grwp Uwch - Stephen Rees
Grwp Canolig - Gwenno Roberts
Grwp Sylfaen - Nial Cain

£7.50, £5 gostyngiadau, £12 teulu (1 oedolyn + plant, oedolyn ychwanegol £5)

Manylion pellach neu gofrestru:
catrin@sesiwn.com
(01286) 831344
http://www.sesiwn.com

...............................................................................

Cefndir:

Sesiwn Dros Gymru – Gweithdai Gwerin CLERA 2012
Galwad ar offerynwyr o bob lefel i gymeryd rhan mewn digwyddiad cerddorol arbennig!!
Dystiwch y delyn, tiwniwch eich ffliwt a thynnwch y ffidil o'r to!

Mae Clera wrthi yn trefnu rhaglen uchelgeisiol o weithdai gwerin dan yr enw "Sesiwn Dros Gymru", gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru. Y bwriad yw cynnal 40 o weithdai offerynnol (hanner diwrnod) dros gyfnod o flwyddyn, mewn 4 ardal wahanol (gogledd-ddwyrain / gogledd-orllewin / de-orllewin / de-ddwyrain), sef 10 gweithdy i bob ardal.

Gweithdai i ddysgu a chwarae alawon traddodiadol Cymreig gyda thiwtoriaid profiadol. Os ydych yn chwarae ffidil, ffliwt, chwiban, telyn neu unrhyw offeryn acwstig sy'n addas ar gyfer cerddoriaeth werin, cewch ymuno a'r dosbarth sy'n addas i chi.
Bydd 3 dosbarth ym mhob gweithdy, ar gyfer gwahanol lefelau o allu a phrofiad cerddorol ac mi fydd niferoedd wedi eu cyfyngu i 10 mewn dosbarth.

Re: 19.1.13 : Gweithdy Gwerin CLERA : Bangor

PostioPostiwyd: Maw 08 Ion 2013 3:33 pm
gan cwrwgl
Alaw y gweithdy (i ddathlu yr Hen Galan Gymreig ar yr 13eg Ionawr):
Iup, DWY alaw fel gwaith cartref!

Nos Galan x 1 / Llwytcoed x2 (gadael allan Glanbargoed)

Ni dreulir amser yn dysgu yr alawon yma yn y gweithdy gyda llaw, gwaith cartref ydynt! Mae'r ddwy alaw i'w cael yn llyfrau Pwt ar y Bys a Blodau'r Grug, neu ar y wefan yma:
http://www.meucymru.co.uk/music/Tunes/N ... sGalSt.htm