Tudalen 1 o 1

23.2.13 : Gweithdy Gwerin CLERA : Aberystwyth

PostioPostiwyd: Mer 30 Ion 2013 2:03 pm
gan cwrwgl
GWEITHDY GWERIN CLERA ABERYSTWYTH
Sesiwn Dros Gymru 2012-13

Dydd Sadwrn, 23 Chwefror 2013
11.00am - 4.00pm

Ysgol Rhydypennau, Bow Street, Ceredigion SY24 5AD

Tiwtoriaid:
Robin Huw Bowen
Gwenno Roberts
Rhiain Bebb
Elin Roberts
Bethan Miles

£7.50, £5 gostyngiadau, £12 teulu (1 oedolyn + plant, oedolyn ychwanegol £5)

Manylion pellach neu gofrestru:
brenda@sesiwn.com
www.sesiwn.com


Cefndir:

Sesiwn Dros Gymru – Gweithdai Gwerin CLERA 2012
Galwad ar offerynwyr o bob lefel i gymeryd rhan mewn digwyddiad cerddorol arbennig!!
Dystiwch y delyn, tiwniwch eich ffliwt a thynnwch y ffidil o'r to!

Mae Clera wrthi yn trefnu rhaglen uchelgeisiol o weithdai gwerin dan yr enw "Sesiwn Dros Gymru", gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru. Y bwriad yw cynnal 40 o weithdai offerynnol (hanner diwrnod) dros gyfnod o flwyddyn, mewn 4 ardal wahanol (gogledd-ddwyrain / gogledd-orllewin / de-orllewin / de-ddwyrain), sef 10 gweithdy i bob ardal.

Gweithdai i ddysgu a chwarae alawon traddodiadol Cymreig gyda thiwtoriaid profiadol. Os ydych yn chwarae ffidil, ffliwt, chwiban, telyn neu unrhyw offeryn acwstig sy'n addas ar gyfer cerddoriaeth werin, cewch ymuno a'r dosbarth sy'n addas i chi.
Bydd 3 dosbarth ym mhob gweithdy, ar gyfer gwahanol lefelau o allu a phrofiad cerddorol ac mi fydd niferoedd wedi eu cyfyngu i 10 mewn dosbarth.