Tudalen 1 o 1

23.2.13 : Gweithdy Gwerin CLERA : Sain Ffagan

PostioPostiwyd: Mer 30 Ion 2013 2:04 pm
gan cwrwgl
GWEITHDY GWERIN CLERA SAIN FFAGAN
Sesiwn Dros Gymru 2012-13

Dydd Sadwrn, 23 Chwefror 2013
10.30am - 3.00pm

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, Caerdydd CF5 6XB

Tiwtoriaid:
Mike Lease
Guto Dafis
Jane Ridout

£7.50, £5 gostyngiadau, £12 teulu (1 oedolyn + plant, oedolyn ychwanegol £5)

Manylion pellach neu gofrestru:
meurig@sesiwn.com
www.sesiwn.com

Cefndir:

Sesiwn Dros Gymru – Gweithdai Gwerin CLERA 2012
Galwad ar offerynwyr o bob lefel i gymeryd rhan mewn digwyddiad cerddorol arbennig!!
Dystiwch y delyn, tiwniwch eich ffliwt a thynnwch y ffidil o'r to!

Mae Clera wrthi yn trefnu rhaglen uchelgeisiol o weithdai gwerin dan yr enw "Sesiwn Dros Gymru", gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru. Y bwriad yw cynnal 40 o weithdai offerynnol (hanner diwrnod) dros gyfnod o flwyddyn, mewn 4 ardal wahanol (gogledd-ddwyrain / gogledd-orllewin / de-orllewin / de-ddwyrain), sef 10 gweithdy i bob ardal.

Gweithdai i ddysgu a chwarae alawon traddodiadol Cymreig gyda thiwtoriaid profiadol. Os ydych yn chwarae ffidil, ffliwt, chwiban, telyn neu unrhyw offeryn acwstig sy'n addas ar gyfer cerddoriaeth werin, cewch ymuno a'r dosbarth sy'n addas i chi.
Bydd 3 dosbarth ym mhob gweithdy, ar gyfer gwahanol lefelau o allu a phrofiad cerddorol ac mi fydd niferoedd wedi eu cyfyngu i 10 mewn dosbarth.