Tudalen 1 o 1

15.2.13 : Clwb Alawon Llyn : Abersoch

PostioPostiwyd: Mer 30 Ion 2013 2:25 pm
gan cwrwgl
Dau weithdy dysgu alawon* Cymreig
(*offerynnol, nid caneuon))

Neuadd Bentref Abersoch, Lôn Gwydryn, Abersoch, Pwllheli, Gwynedd LL53 7HS

Nos Wener 11 Ionawr 2013 am 7pm
Nos Wener 15 Chwefror 2013 am 7pm

Tiwtor: Caroline Haywood

Manylion: www.sesiwn.com

........................................

Cefndir:

Sesiwn Dros Gymru – Gweithdai Gwerin CLERA 2012
Galwad ar offerynwyr o bob lefel i gymeryd rhan mewn digwyddiad cerddorol arbennig!!
Dystiwch y delyn, tiwniwch eich ffliwt a thynnwch y ffidil o'r to!

Mae Clera wrthi yn trefnu rhaglen uchelgeisiol o weithdai gwerin dan yr enw "Sesiwn Dros Gymru", gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru. Y bwriad yw cynnal 40 o weithdai offerynnol (hanner diwrnod) dros gyfnod o flwyddyn, mewn 4 ardal wahanol (gogledd-ddwyrain / gogledd-orllewin / de-orllewin / de-ddwyrain), sef 10 gweithdy i bob ardal.

Gweithdai i ddysgu a chwarae alawon traddodiadol Cymreig gyda thiwtoriaid profiadol. Os ydych yn chwarae ffidil, ffliwt, chwiban, telyn neu unrhyw offeryn acwstig sy'n addas ar gyfer cerddoriaeth werin, cewch ymuno a'r dosbarth sy'n addas i chi.
Bydd 3 dosbarth ym mhob gweithdy, ar gyfer gwahanol lefelau o allu a phrofiad cerddorol ac mi fydd niferoedd wedi eu cyfyngu i 10 mewn dosbarth.