29ain Mehefin. Dyffryn Nantlle. Cadwn ein hysgolion
Postiwyd: Mer 26 Meh 2013 9:04 am
Bydd 'Ddiwrnod o Hwyl' yn cael ei gynal ym mhentrefi Carmel a Y Fron ddydd Sadwrn y 29ain i dynnu sylw at yr angen am ysgol newydd yn Y Groeslon gan gadw Ysgolion y ddwy gymuned arall yn agored. Byddwn yn cychwyn yn Ysgol Bronyfoel am 11 gyda gwestai arbennig. Yna gorymdaith y cymunedau i Carmel lle bydd cyfarfod yn yr ysgol gyda anerchiadau gan Andrew Conant, Tony Schiavone, Cadfan Roberts ac yr Athre Dafydd Glyn Jones. Bydd Angharad Tomos hefyd yn darllen straeon o Wlad y Rwla i'r plant. Yna am 5yh bydd Y Rei a DJ Fflyffilyfbybl yn diddanu gyda disgo a chan yn Neuadd Cymunedol Carmel. Mi fydd bwydydd yn cael eu darparu, ond mae croeso i bawb ddod a bwyd eu hunain. Bydd bwcedi casglu yn cael eu dosbarthu i dderbyn cyfraniadau, ond mae'r gweithgareddau i gyd am ddim!