Croeso Aran

Adran i aelodau newydd - i ddweud helo neu ofyn cwestiynau
Rheolau’r seiat
Adran i aelodau newydd - i ddweud helo neu ofyn cwestiynau. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Croeso Aran

Postiogan Mihangel Macintosh » Iau 29 Mai 2003 8:54 pm

Croeso i'r Maes. Sut ddest ti 'ma?
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Gwen » Iau 29 Mai 2003 9:42 pm

Helo Aran.

Gest ti fy neges i am y 105? :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Aran » Llun 02 Meh 2003 8:50 pm

diolch mihangel - gwen wnaeth sôn am y lle, a diolch iddi am hynna. lle reit braf, ac mae'n wych i weld rhywle mor fywiog yn y Gymraeg - llongyfarchiadau i bawb sy 'di bod yn rhan o'i greu...

cant a phump be', gwen? ti 'di bod yn yfed 'to? twt! naddo, dw i heb gael unrhyw fath o neges 105, i gyd dw i'n gwybod ydy dy fod ti'n llithro o gwmpas yn smalio mod i'n mynd i gael gwerthusiad a TYDW I DDIM mae'n amlwg!!... :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Gwen » Llun 02 Meh 2003 10:11 pm

Aran, Aran, Aran! Paid a cholli mynadd efo fi - dwi yn bwriadu gyrru gwerthusiad atat ti - wir yr! Yn ddiweddar, mae pob munud rhydd sydd gen i wedi mynd i sganio erthyglau (gofyna i nicdafis os nad wyt ti'n fy nghredu i - fo, druan, sy'n gorfod eu derbyn nhw - a fel ti'n gwybod, dwi ddim mo'r orau am anfon sganiadau bychan, nac ydw?). Ond ti'n siwr o glywed gen i y cyfle cynta ga i...
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Gwen » Llun 02 Meh 2003 10:19 pm

Sori - dwy neges eto!

Nes i adael y neges 105 ar dy beiriant ateb di. Dwi'n trio peidio bod yn fwy manwl rhag ofn i mi ddatgelu'r fath dwyllwr wyt ti, a dwi ddim isio dadrithio pobl ynot ti :winc:

Mae'r gyfrinach yn ddiogel :-I (ymgais at ddangos ceg wedi'i chau yn dynn - aflwyddiannus dwi'n gwybod!)
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Aran » Maw 03 Meh 2003 5:52 pm

ti 'di 'nrysu fi'n llwyr! a phaid â phoeni, mond tynnu coes o'n i - mi ddylet ti wybod erbyn hyn mod i'n tynnu coes yn llawer amlach na siarad yn gall... :winc:

'di checio fy mheiriant ateb ffôn a does nam byd yn fan'na, felly bydd rhaid i chdi drio eto! dw i'm yn meddwl bod 'na unrhyw cyfrinachau amdanaf - ond os oes, 'swn i'n licio clywed nhw, felly rho wybod...!

dw i'm yn dwyllwr! malwr o awyr, efallai, ond fydda i byth yn deud celwydd. wel... :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan nicdafis » Maw 03 Meh 2003 6:43 pm

Gwen a ddywedodd: Yn ddiweddar, mae pob munud rhydd sydd gen i wedi mynd i sganio erthyglau (gofyna i nicdafis os nad wyt ti'n fy nghredu i - fo, druan, sy'n gorfod eu derbyn nhw - a fel ti'n gwybod, dwi ddim mo'r orau am anfon sganiadau bychan, nac ydw?).


<b>Ti</b> yw'r Gwen sy'n hala'r sganiadau ataf? Wel, wel. Does dim llosgydd CD gyda ti, nag oes? Mae'r ebyst yn cymryd oriau i gyrraedd.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Gwen » Maw 03 Meh 2003 10:27 pm

Mmm. Maen nhw'n cymryd oriau i'w gyrru hefyd gwaetha'r modd. Ond fel arall, doedd dim modd eu darllen nhw.

Dwi gobeithio ella y gwneith Aran ddangos i fi sut i'w gyrru nhw yn llai ond eto'n ddarllenadwy y tro nesa fydd o yn Aberystwyth. Mae o'n dda fel'na... meddan nhw...

Beth bynnag, dyna'r llwyth olaf am y tro. Gobeithio y byddaf wedi dod i ddeall fy sganar yn well erbyn y llwyth nesa. Sori am fod yn niwsans! :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Gwen » Maw 03 Meh 2003 10:33 pm

Aran a ddywedodd:'di checio fy mheiriant ateb ffôn a does nam byd yn fan'na, felly bydd rhaid i chdi drio eto!


Hen neges oedd hi. Rhyw ddydd Sul a chdithau wedi yfed hanner potel o win yn ormod - cofio?

Reit, mae hyn yn swnio'n ddrwg rwan, ond dwi'n sicrhau unrhyw un sy'n nabod Aran a fi ac sy'n darllen hwn ei fod o'n gwbl ddiniwed. 'Toedd, Aran? Prawf o ddiflastod y mater ydi'r ffaith nad ydi Aran yn cofio dim. A finna wedi gwneud gwaith ymchwil manwl ar ei ran o hefyd :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Aran » Mer 04 Meh 2003 10:30 am

'rargian, reit, dw i efo chdi 'wan - ti'n licio siarad yn ddirgel, 'twyt? do, do, *fi* oedd wedi bod yn yfad, nid y chdi, chdi oedd yn iawn, nid y fi, dw i'n dallt o 'wan. 105 fel sut i sgwennu'r pumed wedi'r cant, ia?!

ond dw i dal i fethu dallt be sy gen hyn oll i wneud efo bod yn dwyllwr, a finnau mor onast a diniwed nes bod pawb yn cymryd fantais... :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen


Dychwelyd i Croeso a Chyfarchion

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 16 gwestai

cron