Helo bobol!

Adran i aelodau newydd - i ddweud helo neu ofyn cwestiynau
Rheolau’r seiat
Adran i aelodau newydd - i ddweud helo neu ofyn cwestiynau. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Jimbo Jôs y Datan » Maw 10 Meh 2003 2:59 pm

Rhyw dwtsh o iodlo amball waith te, mewn rhyw Noson Lawan.

Llwya'n swnio'n ddiddorol iawn hefyd - isio tipyn o sgil i gael miwsig perseiniol allan o betha mor gyffredin. Ag eto, dyna draddodiad y bobol dlawd ynte.

Un o Grymych ffor'na wyt ti, ia? Digon o nosweithia llawan ffor'no rioed. Fum i yno lawar gwaith pan o'n i'n fengach

a chydig o'r lêdis yn y cloddia ar ôl i'r canu orffan ynte wchi
Rhithffurf defnyddiwr
Jimbo Jôs y Datan
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 22
Ymunwyd: Maw 10 Meh 2003 1:53 pm
Lleoliad: Môn Mam Cymru

Postiogan Leusa » Maw 10 Meh 2003 11:04 pm

Croeso Jimbo Jos, Mr Enw GWYCH!
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan nicdafis » Mer 11 Meh 2003 8:08 am

(Ma <a href="http://www.gomer.co.uk/english/welshbk/cerddi_bois_y_frenni.htm">Bois y Frenni</a> dal i fynd, w. Ma'n nw'n boblogaidd iawn ar sircyt Merched y Wawr.)

Croeso mawr i Fistar Jôs.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Alys » Mer 11 Meh 2003 9:15 am

Mihangel Macintosh a ddywedodd:Yr awdur Mihangel Morgan wy ti'n meddwl? Na, dwi'n Fihangel gwahanol sydd yn wastio fy amser ar y we yn lle 'sgrifennu storis

Ac weithiau'n <a href = "http://morfablog.com/fforwm/viewtopic.php?t=489">cyfuno'r ddau</a> ... :winc:
Helo Mr Datan croeso i'r Maes.
Rhithffurf defnyddiwr
Alys
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 552
Ymunwyd: Maw 03 Medi 2002 3:43 pm

Postiogan Cardi Bach » Mer 11 Meh 2003 9:22 am

siwdi boi?
croeso.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan huwwaters » Mer 11 Meh 2003 9:51 am

Yo, Jimbo. O dy ddefnydd eirfa dwi'n dyfalu dy fod o ffordd C'narfon.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Jimbo Jôs y Datan » Mer 11 Meh 2003 1:12 pm

Uwadd mowr, naci - Monwysyn o nghorun i'n sawdl. Dim ond yn picio i'r Tir Mawr pan fo wirioneddol raid.

Mae'r croeso yn codi calon rywun, a chlywad fod Bois y Frenni dal yn gwneud eu rownds yn fwy o donic fyth.

Gem o le di hwn, a llongyfarchiada mawr ar ei lwyddiant o.

(Pwynt bach yn famma - taswn i'n dwad o Gaernarfon, mi faswn i'n deud 'tysan' yn lle 'tatan')
Rhithffurf defnyddiwr
Jimbo Jôs y Datan
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 22
Ymunwyd: Maw 10 Meh 2003 1:53 pm
Lleoliad: Môn Mam Cymru

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer 11 Meh 2003 2:12 pm

'Wanwl, un o foch Môn, go debyg! Mae gen i Fôn yn fy ngwaed ac yn falch ohoni (un da di'r hen Nain!)! Croeso twymgalon i'r maes! :D
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan sbeicsan » Mer 11 Meh 2003 5:13 pm

Hei jimbo jos - lle yn hollol yn sir fon i`n dod o?! dwi`n dod o wlad y medra fyd!
Rhithffurf defnyddiwr
sbeicsan
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 34
Ymunwyd: Llun 12 Mai 2003 11:12 pm
Lleoliad: aberystwyth a sir fon

Postiogan Jimbo Jôs y Datan » Iau 12 Meh 2003 11:11 am

Mae o'n dechra hefo Llan... ond anodd dweud mwy yn fan hyn. Dim digon o bobol Môn sy'ma a dyna'r drwg hyd y gwela i. Da iawn clywed gen ti sbeicsan.
Rhithffurf defnyddiwr
Jimbo Jôs y Datan
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 22
Ymunwyd: Maw 10 Meh 2003 1:53 pm
Lleoliad: Môn Mam Cymru

NôlNesaf

Dychwelyd i Croeso a Chyfarchion

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai