Meinir - wele groeso...

Adran i aelodau newydd - i ddweud helo neu ofyn cwestiynau
Rheolau’r seiat
Adran i aelodau newydd - i ddweud helo neu ofyn cwestiynau. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 26 Meh 2003 12:43 am

wyt to yn y cwps bob nos? ta wyt ti jyst wastad yna pan dwi yna.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Meinir » Iau 26 Meh 2003 10:30 am

Rheswm da iawn am hynny - dwi'n byw yna. Wel, dim yn union eto, gan fy mod i dal yn ei lordio hi ar Ffordd y Gogledd ar hyn o bryd, ond symud i mewn i fflat y Cwps dydd Llun. Wedi piclo hynny o fren sgen i a chrio i mewn i 'ngwydryn fydda' i ymhen rhyw flwyddyn gewch chi weld!
Meinir
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Maw 10 Meh 2003 2:48 pm

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 26 Meh 2003 12:40 pm

ond symud i mewn i fflat y Cwps dydd Llun


Ti ddim yn gall!

Siriys nawr PAID!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Meinir » Iau 26 Meh 2003 12:57 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:
Ti ddim yn gall!

Siriys nawr PAID!


Pam ddim...? Oce, oce - dwi'n dalld na fyddai'n syniad da blabio'n fyngus am ddyfodol Cymru i mewn i fy ngwydryn gwirod bob nos... Ond, dwi yna sawl gwaith yr wythnos beth bynnag, a dydi hynny heb neud lot o ddrwg (... dwi'm yn meddwl... :? )
Meinir
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Maw 10 Meh 2003 2:48 pm

Postiogan Rhys Llwyd » Sad 28 Meh 2003 8:15 pm

Dwi di sgwennur erthygl i Gwreiddiau. Nai ddanfon o i chdi pan gyrhaeddai nol yn Aber (ddydd llun) dwi yng Nghaerdydd ar hyn o bryd.

Be di dy e-bsot?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Meinir » Sul 29 Meh 2003 1:27 am

meinir_eluned_jones@hotmail.com . Ond os ti isio bod yn fwy proffesiynnol - meinir@cymuned-ceredigion.org (cyrraedd 'run lle'n diwedd, felly fawr o wahaniaeth...)

Diolch i ti am lunio'r erthygl mor sydyn. Dwi newydd ddod nol o noson (reit hwyr a hapus) yn y Cwps (taith y beirdd benywaidd + Arwyn Davies - gwych! Ewch i'w gweld nhw yn y Sdeddfod.) ac isio gyrru proflen rhifyn cynta' Gwreiddiau at y dylunydd/ cysodwr rwan er mwyn iddo weld golau dydd erbyn y Cyfarfod Blynyddol yn Harlech dydd Sadwrn.

Ymgais dda yn Stomp CYI neithiwr!

Braf cyhoeddi y caiff Rhys Llwyd, a phwy bynnag arall sy' â diddordeb cyfrannu ar gyfer rhifyn y Sdeddfod, y pleser o rannu'r llwyfan gyda Ein Hybarch Archdderwydd. Siawns bod hynny'n sbardun..?!
Meinir
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Maw 10 Meh 2003 2:48 pm

Postiogan Aran » Sul 29 Meh 2003 3:08 pm

ia, sbardun i beidio... :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Rhys Llwyd » Sul 29 Meh 2003 5:10 pm

Dyma oedd yng ngherdd i nos Wener:

Egunkaria
(Ar yr 20fed o Chwefror 2003 fe orchmynwyd Egunkaria, unig bapur newydd dyddiol yr iaith Fasgeg, i gau. Arestiwyd ac arteithiwyd y newyddiadurwyr a’r golygydd gan y Sbaenwyr.)

Syndod a thawelwch, sylweddoliad a chryndod.
Dicter -
Ôl-fflachiadau o erlid a’r Führer
Yn llifeiriant gwenwyn hanes.

Big Mac Plaen plis. Wot?
Deddf Iaith Newydd!
Papur Basgeg plis. No se puede!
Hawl i gyhoeddi papur newydd.

Safant yng nghanol y ffordd
Eu cyrff yn aberth parod.
Ninnau’n bobl canol y ffordd
Yn ceisio osgoi safiad.

Daw’r erlid, y caethiwo a’r arteithio.
Fe’u poenydir fel adlais o lifeiriant Auschwitz.

Yma yng Nghymru mae’n daith fer
O’r hen gestyll i’r celloedd.
Myfyrwyr dosbarth canol yn
Chwalu’r myth mewn darlithoedd.

Cof cenedl yn ffynnon
Hen, hen lifeiriant
a olcha’r gwenwyn
o’r clwyf.

o ni'n crynnu'n ofnadw wrth eu darllen, o ni mor nyrfys.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Meinir » Llun 30 Meh 2003 11:11 am

I ffwrdd a chdi i'w chyhoeddi yn yr edefyn Barddoniaeth yn y Blwch Tywod! ... ac i Anedd y Cynganeddwyr hefyd pam lai? ...
Meinir
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Maw 10 Meh 2003 2:48 pm

Nôl

Dychwelyd i Croeso a Chyfarchion

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron