Meinir - wele groeso...

Adran i aelodau newydd - i ddweud helo neu ofyn cwestiynau
Rheolau’r seiat
Adran i aelodau newydd - i ddweud helo neu ofyn cwestiynau. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Meinir » Llun 16 Meh 2003 10:59 am

Trafod helpu Gwalia oeddem ni. Sgwrs wleidyddol iawn (biti nad ydw i'n cofio llawer :) ). Mae siarad am ddyfodol Cymru drwy'r nos fel hyn, tra llif y cwrw, yn gallu bod yn hwyl, ac yn sentimental a dramatig iawn, yn enwedig i gyfeiliant caneuon Tecwyn Ifan a Geraint Jarman (wrth gwrs!)
Meinir
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Maw 10 Meh 2003 2:48 pm

Postiogan Rhys Llwyd » Llun 16 Meh 2003 11:56 am

Ai ma 'Cymru' wedi peri i mi golli cwsg a pheidio mynd i fynnu cwsg sawl tro hefyd.

Rhys ydy fenw canol i bobl, ella mod i'n trio cyfiawnhau'r ffaith drwy alw pobl erill wrth eu henwau canol.

Sion Rhys Llwyd ydw i.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Leusa » Mer 18 Meh 2003 8:36 pm

:o Ddylsa chdi'm di ddeud hyna. Ma na ormod o Sions yn y Byd ma - dwi di cyfarfod/adnabod tua 40 erbyn hyn.
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan Aran » Mer 18 Meh 2003 9:02 pm

Wel, Meinir! a ddywedodd:(braidd o hangofyr)


oeddet ti'n llawn haeddu'r hangofyr - dan ni'n gweithio'n ddigon caled, dwed? ond dduda i'm byd - tydw i ddim yn dod o gefndir gwleidyddol...
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Meinir » Mer 18 Meh 2003 9:35 pm

Dim o gefndir gwleidyddol o gwbl, gyfeillion... felly haen drwchus o halen efo bob dim mae'r octapws yma'n ei ddweud am faterion cyfoes... A mae o'n edrych yn wirion wrth ddawnsio salsa hefyd... :winc:
Meinir
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Maw 10 Meh 2003 2:48 pm

Postiogan Aran » Iau 19 Meh 2003 3:30 pm

y math o sarhad bod rhywun yn cael gan madfallod rheibus rhyfadd y dyddiau hyn! mae wythdroediaid wrth eu boddau'n bwyta pethe bychain fel'na, sdi...
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Rhys Llwyd » Gwe 20 Meh 2003 12:15 am

Dim o gefndir gwleidyddol o gwbl, gyfeillion... felly haen drwchus o halen efo bob dim mae'r octapws yma'n ei ddweud am faterion cyfoes...


Nogodd na gefndir gwleidyddol ir gwaith ennillesdi da yn un o seremonis yn steddfod yr Urdd or blan?! falle ddim, probably not!

Ma Seimon yn gneud llawer i bwshio dy yrfa gwleidyddol di ta beth - llunie mowr yn Barn mis hyn!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Meinir » Gwe 20 Meh 2003 5:26 pm

Aran sy'n cael ei gyhuddo o beidio a dwad o gefndir gwleidyddol, nid fi. Er, fi fyddai'r cynta i gyfaddef nad ydw i'n dwad o gefndir felly. Dydi hynny, wrth gwrs, ddim yn golygu nad ydw i'n wleidyddol (ac nad ydi Aran ynta). Os rwbath, hwrach ein bod ni'n fwy gwleidyddol effro nag amryw o wleidyddion plaid (d.s. 'p' fach!), ond ein bod ni'n gweithio o'r tu allan. Dwi'n meddwl mai be' oedd y sawl fu'n barnu Aran a'i debyg (os oes tebyg :winc: ) yn trio'i ddeud - nad ydi o'n rhan o'r 'sefydliad'. Ond, dwn im...

Lluniau yn Barn braidd yn annisgwyl o 'styried i'r biced ddigwydd nol ynghanol Ionawr. Cawn weld a fydd gwleidyddion mawr y byd yn fy hedhyntio i... :? Ynglyn a fy ngwaith yn sdeddfod yr urdd llynedd ... hm - bosib bod 'na gefndir gwleidyddol yna'n rwla, achos darllen darn o un o'r straeon hynny o'n i ym mhrotest Llundain.
Meinir
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Maw 10 Meh 2003 2:48 pm

Postiogan Aran » Gwe 20 Meh 2003 11:47 pm

Meinir a ddywedodd:(os oes tebyg :winc: )


o, paid, dw i'n dechrau cochi. hmmmm... neu efallai bod hynny'n ymdrech arall gan y madfall i fod yn haerllug... hmmmm....

o'n i'n meddwl oedd y busnes 'na am fethu bod yn rhan o'r sefydliad i fod yn ganmoliaeth?! dyn ni'n dal i fod yn bur, sdi, heb ein pydru gan wleidyddiaeth... :winc:

dyn ni'n gweithio, yndan? yn ddigon caled, ti'n meddwl? wel, meinir?

hei, ti'n trio i ensynu mod i'n rhan o'r sefydliad? gwatsia dy hun, hogan... ond, erbyn feddwl, dw i'n aelod o gôr, felly mae hynny'n cyfrif yn fy erbyn i... ond dw i ar fin cael fy nhaflu allan o'r steddfod, a gall sicrhau lle i fi yn ôl efo'r rhai pur o galon... :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Meinir » Sad 21 Meh 2003 12:09 am

Wrth gwrs mai bod yn haerllug o'n i! Un felly ydw i sdi :crechwen:

O'n i'n meddwl mod i'n siarad yn eitha' call ynglyn a'r sefydlaid, ond dwi wastad yn meddwl mod i'n siarad yn gall - pobl eraill sy'n ddi-ddalld yn y byd 'ma :rolio:

Ynglyn a pheidio gweithio'n ddigon caled - ydi bod ar ddihun tan 4 y bore yn trio siapio cylchgrawn radicalaidd yn ddigon da?? Nac ydi, debyg - arhosa' i tan 5 bore ma ta.
Meinir
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 76
Ymunwyd: Maw 10 Meh 2003 2:48 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Croeso a Chyfarchion

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai