Ffrind o ffrind o ffrind oedd yn sôn am y negesfwrdd Cymraeg 'ma, felly fe nes i chwilo yn Google ...
... a hey presto! dyma fi.
Postiwyd: Gwe 11 Gor 2003 2:30 pm
gan nicdafis
Blydi hel, <i>yr</i> Eusebio!
Ro'n i yn yr ysgol gyda boi o'r enw Martin Eusebio Nash. Nid ti yw hwnna, yfe?
Postiwyd: Gwe 11 Gor 2003 9:35 pm
gan Geraint
Oes gen ti Villa mawr ym Mhortiwgal lle ar criw Maes-E crashio yn blwyddyn nesa?
Postiwyd: Mer 16 Gor 2003 9:18 am
gan eusebio
I fod yn hollol onest a realistig, allai'm gweld y bois yn cyrraedd Portiwgal - er mawr fydd y siom, colli yn y gemau ail gyfle fydd hanes arwrol bechgyn Sparky.