Helo pawb o drigolion maes e!
Ifan Saer yw'r enw, a rwy'n falch iawn o ddarganfod yr hafan Gymraeg yma. Wedi bod yn postio ar safleoedd y bi-bi-ec, a mae'r lle yn farw. Gwaeth na hynny, mae na lwyth o fasdads gwrth-Gymreig yno, felly pleser o'r mwyaf yw darganfod llond lle o Gymry glan (?) gloyw yma.
Dwi'n meddwl mai Nic sydd yn gyfrifol am y wefan hon, felly diolch Nic a'th ymdrechion - gwaith da! Os nad Nic sydd yn gyfrifol, mae'n ddrwg gen i, a pob parch i pwy bynnag.
Un cwestiwn - be ddiawl 'di Blogathon 2003???
Hwyl!