Rhowch groeso i'r Saer!

Adran i aelodau newydd - i ddweud helo neu ofyn cwestiynau
Rheolau’r seiat
Adran i aelodau newydd - i ddweud helo neu ofyn cwestiynau. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Rhowch groeso i'r Saer!

Postiogan Ifan Saer » Sad 19 Gor 2003 10:41 am

Helo pawb o drigolion maes e!

Ifan Saer yw'r enw, a rwy'n falch iawn o ddarganfod yr hafan Gymraeg yma. Wedi bod yn postio ar safleoedd y bi-bi-ec, a mae'r lle yn farw. Gwaeth na hynny, mae na lwyth o fasdads gwrth-Gymreig yno, felly pleser o'r mwyaf yw darganfod llond lle o Gymry glan (?) gloyw yma.

Dwi'n meddwl mai Nic sydd yn gyfrifol am y wefan hon, felly diolch Nic a'th ymdrechion - gwaith da! Os nad Nic sydd yn gyfrifol, mae'n ddrwg gen i, a pob parch i pwy bynnag.

Un cwestiwn - be ddiawl 'di Blogathon 2003???

Hwyl! :D
Y Cofis wyr y cyfan
Rhithffurf defnyddiwr
Ifan Saer
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1412
Ymunwyd: Gwe 18 Gor 2003 7:08 pm
Lleoliad: Ar fy nhin o hyd

Postiogan huwwaters » Sad 19 Gor 2003 10:59 am

Croeso Saer!

Mae arnaf cwpwrdd cornel ishio'i wneud. Na. Dewid doeth iawn oedd dwad yma; ond yn anffodus, does dim troi'n ôl. :ofn:
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Hogyn o Rachub » Sad 19 Gor 2003 12:51 pm

Croeso mawr i chi saer! Sut ffeindiaist ti dy ffordd i'r cornel fach yma o'r we?
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Rhowch groeso i'r Saer!

Postiogan nicdafis » Sad 19 Gor 2003 12:58 pm

Ifan Saer a ddywedodd:Un cwestiwn - be ddiawl 'di Blogathon 2003???


Wythnos i heddi bydda i ar lein am 24 awr yn ddistop, gan bostio rhywbeth ar <a href="http://morfablog.com">Morfablog</a> bob hanner awr. Bydd pobl yn sbonsro fi (mae dros £300 wedi'i addo hyd yn hyn, a dw i'n siwr bod y rhan fwya o'r maeswyr 'ma jyst am aros tan y munud ola...) Bydd yr arian yn mynd at Gymdeithas yr Iaith.

Mwy o <a href="http://morfablog.com/blogathon">fanylion yma</a>.

A chroeso mawr. ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Ifan Saer » Sad 19 Gor 2003 1:11 pm

Diolch am y croeso hyd yma, a'r esboniad Nic! Ew, pobol ffeind da chi ynde!! :winc:

Hogyn o rachub - dod ar draws y safle gan fy mod yn gwario llwyth o amser ar-lein yn fy "ngwaith". Job gont deud y gwir, ond o leia' dwi'n cael fy nhalu i falu cachu yma, hehehe!! :winc:
Y Cofis wyr y cyfan
Rhithffurf defnyddiwr
Ifan Saer
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1412
Ymunwyd: Gwe 18 Gor 2003 7:08 pm
Lleoliad: Ar fy nhin o hyd

Postiogan Mihangel Macintosh » Llun 21 Gor 2003 12:37 pm

Croeso mawr Ifan Saer.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Ifan Saer » Llun 21 Gor 2003 12:56 pm

Diolch Mihangel! Ond mi fydd pawb wedi laru arnai cyn bo hir....

A does dim angen bod mor barchus, hogyn o rachub! Dyna ddigon o'r busnas 'chi' yna! 'Ti' ydw i bob tro. (am frawddeg hollol swreal)
Y Cofis wyr y cyfan
Rhithffurf defnyddiwr
Ifan Saer
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1412
Ymunwyd: Gwe 18 Gor 2003 7:08 pm
Lleoliad: Ar fy nhin o hyd

Postiogan Chwadan » Llun 21 Gor 2003 8:12 pm

Helo! Wyt ti'n saer go iawn?
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Leusa » Llun 21 Gor 2003 10:51 pm

Croeso mawr!
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan Ifan Saer » Maw 22 Gor 2003 10:28 am

Diolch chwadan a Leusa!

Na, dydw i ddim yn Saer go iawn, dim ond Saer geiriau.

Hwyl! :winc:
Y Cofis wyr y cyfan
Rhithffurf defnyddiwr
Ifan Saer
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1412
Ymunwyd: Gwe 18 Gor 2003 7:08 pm
Lleoliad: Ar fy nhin o hyd

Nesaf

Dychwelyd i Croeso a Chyfarchion

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron