Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Mer 13 Awst 2003 12:45 pm
gan Cardi Bach
Al Jeek a ddywedodd:Gwylia be tin ddeud Saer, ma na lot o ni Beganif's ar y maes ma sti!
Wel, uh, 2. :winc:
A mae un ohona ni yn wimp (dim fi).


a'r llall yn geek :winc:

PostioPostiwyd: Mer 13 Awst 2003 1:28 pm
gan Al Jeek
Wel! :ofn:
So? Dwin cael fy nhalu am fod yn geek, so dwim yn cwyno. :winc:

PostioPostiwyd: Mer 13 Awst 2003 3:55 pm
gan Ifan Saer
Mae na un arall o gwmpas 'fyd, ei enw yw WUW. Heb gyfrannu lot eto, ond mae'n siwr o neud. Un o ffrindia' gora i, falla fod chdi'n nabod o.

Dydio ddim hannar call, ngwasi :winc:

PostioPostiwyd: Mer 13 Awst 2003 10:10 pm
gan Macsen
Wimp!? Myfi?!

A wyt ti'n cyfrif unrhyw un yn wimp, Aled, sydd dwywaith teneuach na ti dy hun? Felly mae Sion Corn yn wimp? Yokozuma?

Bydd na ddent yn dy gar bach newydd glas a sgleiniog cyn daw'r bore!

PostioPostiwyd: Mer 13 Awst 2003 10:17 pm
gan Al Jeek
Ifan Saer a ddywedodd:Mae na un arall o gwmpas 'fyd, ei enw yw WUW. Heb gyfrannu lot eto, ond mae'n siwr o neud. Un o ffrindia' gora i, falla fod chdi'n nabod o.


Ideal

Ifan Bifan a ddywedodd:Wimp!? Myfi?!
A wyt ti'n cyfrif unrhyw un yn wimp, Aled, sydd dwywaith teneuach na ti dy hun? Felly mae Sion Corn yn wimp? Yokozuma?


Ia chdi y matsien efo bol Guinness. :crechwen:
Os fydd na ddent yn fy nghar hyfryd i bore fory mi fydd na ddent yng ngwyneb rhywun ychydig wedyn.

Esu mae hyn yn sad, trafod ar negesfwrdd gyda rhywun sydd ochr arall y ty. :winc:

PostioPostiwyd: Iau 14 Awst 2003 12:03 am
gan Gruff Goch
Ges ti'r rhwydwaith di-wifren i weithio wedyn felly?

PostioPostiwyd: Iau 14 Awst 2003 8:08 am
gan Al Jeek
Do. Di Ifan ddim yn cael signal ffantastic, ond mae'n ddigon da iddo i ddefnyddio'r we a gemau LAN yn berffaith. Mae o bach yn slo pan mae'n dod i drosglwyddo ffeiliau mawr neu gwylio ffilmia DivX drosti ddo (mae o tua 2Mbps fel arfer, dwin cael 54Mbps).

PostioPostiwyd: Iau 14 Awst 2003 7:07 pm
gan Macsen
Dwi yn gyflymach nag 2mbps, pam mae'r gwynt yn chwythu i'r dwyrain-orllewin.

Os mae gen i fol Guinness, mae gen ti fol Carlsberg, Blackthorn, Strongbow, Reef, Turpentine... :crechwen: