Tudalen 1 o 1

Croeso Dylan!

PostioPostiwyd: Maw 12 Awst 2003 11:17 pm
gan Dylan
Diolch yn fawr, Dylan.

Noswaith dda gyfeillion. Newydd gofrestru felly jyst meddwl fysa hi'n syniad dweud helo i gyflwyno fy hyn a ballu. Felly "Helo". 'Dw i'n siwr fyddwch chi gyd yn falch iawn o glywed fydd gennych jinjar yn eich plith o hyn ymlaen.

PostioPostiwyd: Maw 12 Awst 2003 11:27 pm
gan Gruff Goch
Croeso Dylan!

PostioPostiwyd: Maw 12 Awst 2003 11:50 pm
gan Macsen
Blydi hel. Jinjar efo afro, fyd. Ac o Gaernarfon.

A jinjar arall, o Rhiwlas, yn ei gyfarfod. Tebyg fod Maes-E'n dod a'r gwaethaf allan o Gymru.

PostioPostiwyd: Maw 12 Awst 2003 11:52 pm
gan Dylan
Diolch. I ddweud y gwir 'dw i'n synnu bod y fath gymdeithas yn bodoli ar y we. 'Dw i 'di bod yn chwilio am rywbeth fel hwn yn y Gymraeg ers sbel. Wedi clywed am Maes-E o'r blaen a ballu ond erioed wedi meddwl dod yma am ryw reswm. Be' bynnag. Llun bach lyfli o myfi yn tua 6 oed ydi hwnna ar y chwith o dan f'enw i. Mwynhewch.

PostioPostiwyd: Maw 12 Awst 2003 11:54 pm
gan Macsen
Beth yw'r cyfieithiad cymraeg o LOL? CAYU??

Llun doniol ar y naw, Dylan. Mae'n edrych fel bod cwmwl lliwgar wedi nofio i lawr am dy ben di.

PostioPostiwyd: Mer 13 Awst 2003 12:19 am
gan Dylan
"ChAYU" siawns? :P

PostioPostiwyd: Mer 13 Awst 2003 10:39 am
gan Mihangel Macintosh
Croeso mawr i'r maes Dylan.

PostioPostiwyd: Mer 13 Awst 2003 11:29 am
gan Ifan Saer
Croeso Dyl! Asu grist, ma'e lle ma'n llenwi efo cofis.

shotcont!