Helo!
Mae'n siwr dydi hyn ddim yn edrych yn eglur ar y funud, ond, mi wneith ar ol i chi ddarllen hwn.
Os ydych yn gwybod am Dave Gorman, dydych ddim yn gorfod darllen y paragraff yma! I egluro, Dave Gorman (mwy o wybodaeth amdano ar http://www.davegorman.co.uk. Ar Wikipedia: -
A Googlewhack is a Google search query consisting of two words--both of which must be in Google's dictionary, and without quotation marks--that returns a single result. A successful Googlewhack returns 'Results 1-1 of 1'.
Rwan, yn ol i'r stori (gobeithio bod pethau'n eglur 'wan). Heno, r'on i mor bored, es i trio googlewhackio. Rwan, mae googlewhacking yn annodd a mi ges i trafferth. Felly, nes i cofio, roedd yna google Cymraeg sef 'Gwgl' (sori Mr Dafis (dwi'n cymeryd mai fo di bos y gwefan yma) am enwi llaer o gwefannau gwahanol a rhoi 'plug-ins iddyn nhw). Teimlais roedd gennyf theori bach i'r gwglwhackio yma. A dyma fo: -
1. Bysai gwglwhackio yn y Gymraeg yn cynyddu y siawns o cael gwglwhack gan bod yna llai o gwefannau Cymraeg i gymharu a Saesneg
2. Does neb wedi gwglwhackio yn y Gymraeg eto (dwi'n meddwl) a felly, cynyddu siawns o cael gwglwhack newydd.
Hefyd, roeddwn isio neud rhywbeth gwahanol a bod yr un cyntaf (dwi'n meddwl) i gwglwhackio yn Cymraeg.
A mi oedd theori fi'n iawn ... wel, sort of.... drwy teipio 'Smwddis radioactif'*
*1. Dwi'm yn gwybod os di'r geiriau 'Smwddis' a 'Radioactif yn y Geiriadur Cymraeg - sy'n torri rheol
2. Ni ddaeth un canlyniad i fyny - dim ond pedair, ond gyda Maes - E ar y fforwm 'Smwddis' gan 'Chwadan'
Felly, fedrach chi dweud mai gwglwhack ydi o, ond, mi roeddwn wedi rhyfeddu ar y trafodaeth am wneud 'Smwddis' a meddwl bod o'n trafodaeth reit 'random'.
Felly, be dwi'n ei ofyn i chi Maeswyr yw a oes yna mwy o bethau random fel hyn. Rhywbeth? Bryn Fon Bashings... you name it!!!!
Diolch yn fawr iawn am ddarllen hwn,
Gwglwaciwr