Pwy sydd bia'r Pringles yn y gegin?

Adran i aelodau newydd - i ddweud helo neu ofyn cwestiynau
Rheolau’r seiat
Adran i aelodau newydd - i ddweud helo neu ofyn cwestiynau. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Sut mae fy Nghymraeg ar hyn o bryd (wythnos 1)?

Ofnadwy
0
Dim pleidleisiau
Drwg
1
5%
Canolig
0
Dim pleidleisiau
Da
10
45%
Bendigedig
11
50%
Dydwi ddim yn dallt y gofyniad
0
Dim pleidleisiau
 
Cyfanswm pleidleisiau : 22

Pwy sydd bia'r Pringles yn y gegin?

Postiogan Annie Rhiannon » Mer 21 Chw 2007 6:05 pm

Helo pobol y maes

Rydwi'n ddod o Dolwyddelan yn y Gogledd (lle gorau yn y byd) ond dwi 'di byw yng Nghwlad yr Ia am y tri blynyddoedd cynt (lle gorau arall yn y byd). Dydwi ddim 'di siarad Gymraeg ers blynyddoedd felly mae'n ddrwg gen i os dwi'n ysgrifennu lot o ffycin rwdlan.

'Dwi eisio wella fy Nghymraeg gan darllen pethau diddorol amdanach chi i gyd yma yn y Maes.

Rydwi'n hapus iawn fy mhod i 'di symyd i mewn. Pwy sydd bia'r Pringles yn y gegin?
Rhithffurf defnyddiwr
Annie Rhiannon
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 7
Ymunwyd: Llun 19 Chw 2007 4:21 pm
Lleoliad: Reykjavik

Postiogan Deryn Du » Mer 21 Chw 2007 6:33 pm

Croeso Annie :)
How is your problem my problem?
Rhithffurf defnyddiwr
Deryn Du
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 338
Ymunwyd: Maw 18 Mai 2004 5:59 am
Lleoliad: Rhywle tisho

Postiogan Manon » Mer 21 Chw 2007 10:31 pm

Fi bia'r Pringles, Annie. Gei di rai, ond dim ond os 'dyn nhw'n ready salted. Fi sy'n cael y cheese 'n' onion i gyd.

Croeso i'r maes. Am enw hyfryd yw Annie Rhiannon!
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Postiogan Rhodri Nwdls » Mer 21 Chw 2007 10:53 pm

Neb, ma Nic wedi banio nhw gyd er ein lles. Yr hen ddyn cas iddo fo. Grrr.

Croeso Annie! Dwi'n ysu i fynd i Wlad yr Ia. Rhyw ddydd... :D
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Wierdo » Mer 21 Chw 2007 11:42 pm

Croeso Annie!

Er gwaetha' Nic yn banio nw, mae'n ddigon posib mai fi sydd bia nhw os mai blas "sour cream and onion" ydyn nhw. Plis helpa dy hun, ma bwyta gormod ohonyn nw yn neud fi'n sal!

Pawb arall; hands off. Dwi jesd yn rhannu chos fod Annie wedi bod digon neis i ofyn pwy oedd eu piau cyn eu dwyn! :P
Dim fi nath, ci drws nesa laddodd y gath, ma'r ci na'n NYTS!!!

Wierdoflog | Llunia'|Wenglish Wierdo
Rhithffurf defnyddiwr
Wierdo
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2740
Ymunwyd: Llun 16 Meh 2003 8:33 pm
Lleoliad: Aberystwyth / Dyffryn Nantlle

Postiogan Mali » Iau 22 Chw 2007 12:52 am

Croeso i'r maes Annie :)
Lle grêt i 'sgwrsio' yn Gymraeg!
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Ray Diota » Iau 22 Chw 2007 9:28 am

Pi bia'r Pringles, ac er bo ti'n newydd so ti'n cal b'yta nhw sori... wy'n bwriadu prynu humous heno fel dip, falle gei di rai bryd 'ny. Falle.

Ma dy Gymrâg di'n iawn 'chan... clicies i bendigedig achos tan yn ddiweddar on i ddim yn deall bo ti'n siarad cymrâg o gwbwl. Gwd achan!
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Postiogan Jeni Wine » Iau 22 Chw 2007 10:05 am

Helo Annie Rhiannon a chroeso!
Waw, ma Gwlad yr Ia yn le bendigedig - mi es i yno am benwythnos hir i ddathlu pen-blwydd fy mam yn 60 ym mis Medi llynedd. Er, mae Dolwyddelan yn el braf hefyd :gwyrdd:

Be ti'n neud yng Ngwlad yr Ia? Ti'n gallu siarad Islandeg? Dwi bron a thorri mol isio mynd yn ol. Dim ond i Reykjavik es i ond swn i wedi licio mynd i ogledd y wlad hefyd.
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Postiogan KJ » Iau 22 Chw 2007 11:30 am

Haia Annie, di'n oer yn Reykjavik? Mae'n blydi chwilboeth yn fan hyn.
Dwi'n dallt dy Gymraeg di'n iawn achos dwi'n dod o Port yn wreiddiol ac wedi dreifio drw Dolwyddelan lot....yn y glaw rhan amla. Well gen i Walkers Cheese and Onion ond fedra i mond cael nhw yn Sydney sy'n bell iawn o lle dwi....
Rhithffurf defnyddiwr
KJ
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Llun 27 Tach 2006 10:00 pm
Lleoliad: Awstralia

Postiogan Boibrychan » Llun 05 Maw 2007 7:30 pm

Helo na rhaid i mi gytuno a Jeni Wine mae gwlad yr ia yn le hyfryd ac anhygoel, dwi rili isio mynd nol yna rhyw ddydd hefyd. Es i ddim i ogledd y wlad chwaith ond doedd dim digon o amser tro yna, falle eto am drip ar y skidoos, swnio fel hwyl!

Be ydi hi debyg i fyw yn scandanavia, oherwydd dwi'n cysudro mynd am swydd yn Helsinki? Rhy oer a thywyll yn y gaeaf?
Rhithffurf defnyddiwr
Boibrychan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 252
Ymunwyd: Iau 01 Maw 2007 7:23 pm
Lleoliad: Byrmingham


Dychwelyd i Croeso a Chyfarchion

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron