Tudalen 1 o 1

Pwy sydd bia'r Pringles yn y gegin?

PostioPostiwyd: Mer 21 Chw 2007 6:05 pm
gan Annie Rhiannon
Helo pobol y maes

Rydwi'n ddod o Dolwyddelan yn y Gogledd (lle gorau yn y byd) ond dwi 'di byw yng Nghwlad yr Ia am y tri blynyddoedd cynt (lle gorau arall yn y byd). Dydwi ddim 'di siarad Gymraeg ers blynyddoedd felly mae'n ddrwg gen i os dwi'n ysgrifennu lot o ffycin rwdlan.

'Dwi eisio wella fy Nghymraeg gan darllen pethau diddorol amdanach chi i gyd yma yn y Maes.

Rydwi'n hapus iawn fy mhod i 'di symyd i mewn. Pwy sydd bia'r Pringles yn y gegin?

PostioPostiwyd: Mer 21 Chw 2007 6:33 pm
gan Deryn Du
Croeso Annie :)

PostioPostiwyd: Mer 21 Chw 2007 10:31 pm
gan Manon
Fi bia'r Pringles, Annie. Gei di rai, ond dim ond os 'dyn nhw'n ready salted. Fi sy'n cael y cheese 'n' onion i gyd.

Croeso i'r maes. Am enw hyfryd yw Annie Rhiannon!

PostioPostiwyd: Mer 21 Chw 2007 10:53 pm
gan Rhodri Nwdls
Neb, ma Nic wedi banio nhw gyd er ein lles. Yr hen ddyn cas iddo fo. Grrr.

Croeso Annie! Dwi'n ysu i fynd i Wlad yr Ia. Rhyw ddydd... :D

PostioPostiwyd: Mer 21 Chw 2007 11:42 pm
gan Wierdo
Croeso Annie!

Er gwaetha' Nic yn banio nw, mae'n ddigon posib mai fi sydd bia nhw os mai blas "sour cream and onion" ydyn nhw. Plis helpa dy hun, ma bwyta gormod ohonyn nw yn neud fi'n sal!

Pawb arall; hands off. Dwi jesd yn rhannu chos fod Annie wedi bod digon neis i ofyn pwy oedd eu piau cyn eu dwyn! :P

PostioPostiwyd: Iau 22 Chw 2007 12:52 am
gan Mali
Croeso i'r maes Annie :)
Lle grêt i 'sgwrsio' yn Gymraeg!

PostioPostiwyd: Iau 22 Chw 2007 9:28 am
gan Ray Diota
Pi bia'r Pringles, ac er bo ti'n newydd so ti'n cal b'yta nhw sori... wy'n bwriadu prynu humous heno fel dip, falle gei di rai bryd 'ny. Falle.

Ma dy Gymrâg di'n iawn 'chan... clicies i bendigedig achos tan yn ddiweddar on i ddim yn deall bo ti'n siarad cymrâg o gwbwl. Gwd achan!

PostioPostiwyd: Iau 22 Chw 2007 10:05 am
gan Jeni Wine
Helo Annie Rhiannon a chroeso!
Waw, ma Gwlad yr Ia yn le bendigedig - mi es i yno am benwythnos hir i ddathlu pen-blwydd fy mam yn 60 ym mis Medi llynedd. Er, mae Dolwyddelan yn el braf hefyd :gwyrdd:

Be ti'n neud yng Ngwlad yr Ia? Ti'n gallu siarad Islandeg? Dwi bron a thorri mol isio mynd yn ol. Dim ond i Reykjavik es i ond swn i wedi licio mynd i ogledd y wlad hefyd.

PostioPostiwyd: Iau 22 Chw 2007 11:30 am
gan KJ
Haia Annie, di'n oer yn Reykjavik? Mae'n blydi chwilboeth yn fan hyn.
Dwi'n dallt dy Gymraeg di'n iawn achos dwi'n dod o Port yn wreiddiol ac wedi dreifio drw Dolwyddelan lot....yn y glaw rhan amla. Well gen i Walkers Cheese and Onion ond fedra i mond cael nhw yn Sydney sy'n bell iawn o lle dwi....

PostioPostiwyd: Llun 05 Maw 2007 7:30 pm
gan Boibrychan
Helo na rhaid i mi gytuno a Jeni Wine mae gwlad yr ia yn le hyfryd ac anhygoel, dwi rili isio mynd nol yna rhyw ddydd hefyd. Es i ddim i ogledd y wlad chwaith ond doedd dim digon o amser tro yna, falle eto am drip ar y skidoos, swnio fel hwyl!

Be ydi hi debyg i fyw yn scandanavia, oherwydd dwi'n cysudro mynd am swydd yn Helsinki? Rhy oer a thywyll yn y gaeaf?