Dim ond post i ddweud "helo" wrth pawb ar y maes.
Cymro ydw i'n wreiddiol (ganwyd yng Nghasnewydd), sydd wedi bod yn byw yn yr UDA ers blynyddoedd. Rwyf newydd cofrestru yma er mwyn cysylltu â Chymry Cymraeg. Esgusodwch fy Nghymraeg os gwelwch yn dda, rwyf wedi dysgu'r iaith fel oedolyn.
Mae 'da fi blog hefyd, sef "Broch Yng Nghod," cyfeiriad mochyndaear.blogspot.com
Rwyf yn byw yn ardal o'r dalaith Wisconsin lle ymfudodd llawer o Gymry yn yr 19ed ganrif, ac yn gweithio ar draethawd MA amdanyn nhw.