gan sion lublin » Llun 05 Tach 2007 3:10 pm
Dzieki Pogo,
Dzien dobry i tithau. Dyma'r ail Gymro y gwn i amdano yn y wlad hon. Mae Diarmuid Johnson yn darlithio fel Darlithydd gwadd ym Mhoznan bellach, a mawr gobeithio gall yr ieithoedd Celtaidd yn arbennig y Gymraeg wrth gwrs ffynnu yma ymysg y Pwyliaid.
O ran ateb y cwestiynau. Mae'r Pwyleg braidd yn fratiog ar hyn o bryd ond mae'n siwr o wella. Mae cefndir ieithyddol (yn broffesiynol ac fel arall) gen i eisoes. Byddaf hefyd yn mynychu cyrsiau'r Brifysgol (am ddim i staff!) er mwyn gloywi iaith.
Cefais fy mhenodi yma ar ol cael gwybod bod lle ar gael ar y staff i ddysgu Cymraeg (a Saesneg). Head huntio maen nhw'n dweud ym mratiaith yr hen Sir Gaernarfon... Cefais hefyd y cynnig o ysgrifennu MA (wedi ei chwblhau mewn 9 mis - a mwy am honno y tro nesaf, gan mae'n bosibl bydd Mistar Dafis a diddordeb ynddi), a gwneud PhD (a bydd honno'n cael ei "Hamddiffyn" yn y Brifysgol yma yn yr haf/hydref gobeithio).
Fel arall, ac fel hysbys o flaen llaw - byddaf yn dychwelyd i Gymru/yr Ynys tua Gorffennaf 2008 ac mi fydd Lublin yn chwilio unwaith eto am Ddarlithydd yn y Gymraeg. Da chi cyd-wladwyr maes-e a thu hwnt - ystyriwch y posiblrwydd o ddwad draw, er eich mwyn eich hunan-ddatblygiad, eich myfyrwyr, a'ch gwlad a'ch iaith. I addasu ymadrodd Kitchener o'r Rhyfel Fawr,
OUR UNIVERSITY NEEDS YOU!
Hwyl o Wlad Pwyl/Do widzenia.