Helo o Wlad Pwyl

Adran i aelodau newydd - i ddweud helo neu ofyn cwestiynau
Rheolau’r seiat
Adran i aelodau newydd - i ddweud helo neu ofyn cwestiynau. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Helo o Wlad Pwyl

Postiogan sion lublin » Iau 25 Hyd 2007 8:31 am

Dim ond gair bach i ddweud helo, sut ydach chi yn ol ymng Nghymru?
Sion dw i, yn wreiddiol o gwmwd Bontrhythallt, Gwynedd. Poblogaeth tua 59 (neu 60 os byddaf adra) nepell o Mrs Jones Llanrug. Straeon eraill ydy i mi gael fy ngeni yn Llanelwy bron i 40 mlynedd yn ol a fy magu yn nhair ieithog yng Ngorllewin Sussex.
Dw i'n addysgu Pwyliaid yn y Gymraeg mewn Prifysgol ar gyfer eu MA yn Lublin, de ddwyrain y wlad (chwiliwch amdanom ar y map - mae'n lle mwy na Bont). Cawsom Angharad Tomos efo ni mis Mai y llynedd am ddiwrnodiau Cymreig ynghyd a Dawnsio Gwerin!
Mwy o fanylion y tro nesaf os mynnwch.
Dw i hefyd yn aelod o Cymuned.
sion lublin
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 14
Ymunwyd: Iau 25 Hyd 2007 7:47 am
Lleoliad: Lublin, Gwlad Pwyl/Polska/Poland

Postiogan sian » Iau 25 Hyd 2007 8:42 am

Helo Sion
Bydd Mali wrth ei bodd i groesawu rhywun arall o wlad bell!
Wedi gweld dy lythyron di yn y wasg yn ddiweddar - un heddiw dw i'n meddwl.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Helo i Sian oddi wrth Sion!

Postiogan sion lublin » Iau 25 Hyd 2007 9:14 am

Diolch yn fawr am y croeso.
Gan mod i'n newyddun (?newbie) yma ga i ofyn pwy ydy Mali?
Does gen i ddim cof o gael llythyrau yn ddiweddar yn y Wasg, ond gwn bod Golwg yn bygwth cyhoeddi rhth gen i yn dilyn yr hanesyn bach gan Huw Garmon yn ddiweddar. Ai hwnw sydd wedi ymddangos? Carwn ei weld os ydy o'n ddetha.
sion lublin
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 14
Ymunwyd: Iau 25 Hyd 2007 7:47 am
Lleoliad: Lublin, Gwlad Pwyl/Polska/Poland

Postiogan sian » Iau 25 Hyd 2007 9:23 am

Mali sy'n gofalu am y cylch Cymry ar Wasgar ar maes-e. Mae hi'n byw yng Nghanada.

sion lublin a ddywedodd:Does gen i ddim cof o gael llythyrau yn ddiweddar yn y Wasg, ond gwn bod Golwg yn bygwth cyhoeddi rhth gen i yn dilyn yr hanesyn bach gan Huw Garmon yn ddiweddar. Ai hwnw sydd wedi ymddangos?

Ie, hwnna oedd e.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Helo o Wlad Pwyl

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 25 Hyd 2007 10:02 am

sion lublin a ddywedodd:Dw i'n addysgu Pwyliaid yn y Gymraeg mewn Prifysgol ar gyfer eu MA yn Lublin, de ddwyrain y wlad.


Mae dy angen di yn ôl yma i ddysgu Cymraeg i'n cyfeillion Pwylaidd yng Nghymru. :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Mali » Iau 25 Hyd 2007 5:53 pm

Helo Sion . Croeso i ti i maes-e ...lle gwych i gadw golwg ar be sy'n mynd mlaen yng Nghymru fach. :D
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Gwenci Ddrwg » Gwe 26 Hyd 2007 12:46 am

Dwi'n newydd hefyd, ond helo a chroeso!
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Postiogan sion lublin » Sad 27 Hyd 2007 9:51 am

Diolch unwaith eto i chi i gyd.
Hedd, os oes modd i ti ddarganfod swydd i mi yn ol yng Nghymru ar ol i mi gwblhau fy PhD yn y Gymraeg yn y Brifysgol yma yr haf nesaf (2008), yn buaswn yn dod adref ac addysgu'r Pwyliaid...

Cofion cynnes,

Jana w Walia (mewn alltud)
sion lublin
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 14
Ymunwyd: Iau 25 Hyd 2007 7:47 am
Lleoliad: Lublin, Gwlad Pwyl/Polska/Poland

Postiogan Pogo » Sad 03 Tach 2007 10:50 pm

Cześć Sion.

Dwi wedi bod yn byw yng Ngwlad Pwyl am ddeuddeg mlynedd erbyn hyn, yn Szczecin (gogledd dwyrain y wlad).

Dwi'n rhedeg ysgol iaith http://www.golang.pl

Sut mae dy Bwyleg? A sut gest ti swydd yn addysgu'r Gymraeg?
Pogo
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 74
Ymunwyd: Sad 10 Maw 2007 5:42 pm

PL yn galw

Postiogan sion lublin » Llun 05 Tach 2007 3:10 pm

Dzieki Pogo,

Dzien dobry i tithau. Dyma'r ail Gymro y gwn i amdano yn y wlad hon. Mae Diarmuid Johnson yn darlithio fel Darlithydd gwadd ym Mhoznan bellach, a mawr gobeithio gall yr ieithoedd Celtaidd yn arbennig y Gymraeg wrth gwrs ffynnu yma ymysg y Pwyliaid.

O ran ateb y cwestiynau. Mae'r Pwyleg braidd yn fratiog ar hyn o bryd ond mae'n siwr o wella. Mae cefndir ieithyddol (yn broffesiynol ac fel arall) gen i eisoes. Byddaf hefyd yn mynychu cyrsiau'r Brifysgol (am ddim i staff!) er mwyn gloywi iaith.

Cefais fy mhenodi yma ar ol cael gwybod bod lle ar gael ar y staff i ddysgu Cymraeg (a Saesneg). Head huntio maen nhw'n dweud ym mratiaith yr hen Sir Gaernarfon... Cefais hefyd y cynnig o ysgrifennu MA (wedi ei chwblhau mewn 9 mis - a mwy am honno y tro nesaf, gan mae'n bosibl bydd Mistar Dafis a diddordeb ynddi), a gwneud PhD (a bydd honno'n cael ei "Hamddiffyn" yn y Brifysgol yma yn yr haf/hydref gobeithio).

Fel arall, ac fel hysbys o flaen llaw - byddaf yn dychwelyd i Gymru/yr Ynys tua Gorffennaf 2008 ac mi fydd Lublin yn chwilio unwaith eto am Ddarlithydd yn y Gymraeg. Da chi cyd-wladwyr maes-e a thu hwnt - ystyriwch y posiblrwydd o ddwad draw, er eich mwyn eich hunan-ddatblygiad, eich myfyrwyr, a'ch gwlad a'ch iaith. I addasu ymadrodd Kitchener o'r Rhyfel Fawr,

OUR UNIVERSITY NEEDS YOU!

Hwyl o Wlad Pwyl/Do widzenia.
sion lublin
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 14
Ymunwyd: Iau 25 Hyd 2007 7:47 am
Lleoliad: Lublin, Gwlad Pwyl/Polska/Poland


Dychwelyd i Croeso a Chyfarchion

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron