Tudalen 1 o 3

Cael gwared o'r edefyn 'ma

PostioPostiwyd: Maw 22 Ion 2008 3:43 am
gan Kez
Wi ddim isha bod yn gas ne' ddim byd fel 'na ond wedi hir feddwl, ma'r edefyn 'ma yn reit gyfoglyd ond yw e.

Penblwydd yw penblwydd a 'sdim byd mor sbeshal biti r un geson ni y llynadd na'r un gewn ni eleni, ac yn enwedig pan yn ni ddim yn napod y bobol 'ma go iawn ta p'un i.

Pobol newydd sy'n dod i mewn i'r peth 'ma am y tro cynta wedyn. Be' gei di ond negeseuon fel - fi yw Twm, dyma fy nhro cynta ar y maes, fi'n really excited - helo bawb!. Get a ffycin grip Twm a mwy byth y bobl sy'n ei ateb e!

A allen ni gael pleidlais biti cael gwared o'r edefyn 'ma, os gwelwch yn dda - cyn bod yr efengylwyr yn ei gymryd e drosodd ac does ond dychmygu be ddigwyddiff wedyn - happy blydi easter a'r cachu 'na i gyd !! :ing:

Re: Cael gwared o'r edefyn 'ma

PostioPostiwyd: Maw 22 Ion 2008 7:53 am
gan nicdafis
Dim byd well i boeni amdano am chwarter i bedwar y bore, Kez? ;-)

Re: Cael gwared o'r edefyn 'ma

PostioPostiwyd: Maw 22 Ion 2008 8:32 am
gan Kez
Dim lot gwell i boeni amdano fe am chwarter i naw y bore chwaith, Nic - bydd rhaid ifi gadw off y spid 'ma ond so'r clwb yn ail-agor tan chwarter awr wedi hanner dydd ac ma rhaid cadw ar ddihun rywsut. 'Co Llundain iti :winc:

Re: Cael gwared o'r edefyn 'ma

PostioPostiwyd: Maw 22 Ion 2008 9:11 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Penblwydd hapus! Lol!!!!11!!!!!1

Re: Cael gwared o'r edefyn 'ma

PostioPostiwyd: Maw 22 Ion 2008 9:38 am
gan Reufeistr
Seiat ti'n feddwl ia?
Cytuno eniwe.
Wwwww!!! Croeso i'r Maes!
Pathetig.

Re: Cael gwared o'r edefyn 'ma

PostioPostiwyd: Maw 22 Ion 2008 10:43 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Reufeistr a ddywedodd:Seiat ti'n feddwl ia?
Cytuno eniwe.
Wwwww!!! Croeso i'r Maes!
Pathetig.


Ie! Pobl yn bod yn neis i'w gilydd! Twats! Stick it to 'em, Reufeistr!

Re: Cael gwared o'r edefyn 'ma

PostioPostiwyd: Maw 22 Ion 2008 11:20 am
gan Macsen
Helo, jesd yn rhoi fy mhen drwy'r drws. Sut mae pawb? Sut oedd y deintydd? Ie mae'n boed tydi. Wel, welai chi gyd heno rywbryd.

Re: Cael gwared o'r edefyn 'ma

PostioPostiwyd: Maw 22 Ion 2008 11:39 am
gan Hedd Gwynfor
Penblwydd Hapus Beti, (29) heddiw! :winc:

Re: Cael gwared o'r edefyn 'ma

PostioPostiwyd: Maw 22 Ion 2008 11:43 am
gan Reufeistr
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Penblwydd Hapus Beti, (29) heddiw! :winc:


Cadwa at y pwnc plis Hedd.

Re: Cael gwared o'r edefyn 'ma

PostioPostiwyd: Maw 22 Ion 2008 12:43 pm
gan ceribethlem
Penblwydd hapus ir' edefyn yma, sydd bron wyth awr oed bellach! :winc: