Tudalen 1 o 1

Helo 'na

PostioPostiwyd: Maw 04 Maw 2008 3:42 pm
gan supgav
Shw'maeee
Gav 'dw i
Dw i'n 18 oed
Dod o'r de-dwyrain, yn y lle mor Saesneg o'r enw Cil-y-Coed
Dw i 'di dysgu Cymraeg mewn ysgol Saesneg
Nid ydw i'n rhugl (eto), ond dw i'n dysgu geiriau newydd bob dydd a mae fy nghymraeg i'n gwella trwy'r amser :)
Mae fy narllen yn well na fy ysgrifen, a fy ysgrifen yn well na fy llafar!
Fel arfer, dw i'n gallu deall popeth fy mod i'n darllen :)
Ro'n i eisiau mynd i'r brifysgol Caerdydd er mwyn astudio Economeg a Chymraeg... ond mae nhw wedi canslo'r cwrs - grêt!
Felly, dw i'n cael blwyddyn allan cyn i mi fynd i'r brifysgol i astudio rhywbeth arall (wel dyna'r cynllun ar hyn o bryd - mae'n newid trwy'r amser).
Dw i 'di ymuno ag y wefan yma er mwyn rhoi i mi fwy o gyfle i siarad Cymraeg ac i'w defynddio, achos does neb yn siarad Cymraeg yn yr ardal 'ma (wel bron neb)

Cyflwyniad hir. Wn i!
Ond ta be'! Heloo :)

Re: Helo 'na

PostioPostiwyd: Maw 04 Maw 2008 4:13 pm
gan Llefenni
Croeso mawr i ti supgav!
Gobeithio wnei di joio yma :D Hei, beth am fynd i Patagonia i wneud dy flwyddyn allan er mwyn siarad cymraeg a trafeilio - bonws!
Beth yw dy ddiddordebau di? Byddi di ar y byrddau chwaraeon neu falle yn y fforwm deledu?
Mae na ddigon o drafod "The Economist" yn edefyn Lost, tymor 4:winc:

Re: Helo 'na

PostioPostiwyd: Maw 04 Maw 2008 4:30 pm
gan Chickenfoot
Helo a chroseo ayyb.

Re: Helo 'na

PostioPostiwyd: Maw 04 Maw 2008 4:36 pm
gan ger4llt
Croeso i'r maes Gav!
Dwi'n siwr 'mod i 'di dy weld o gwmpas Perthyn
Gobeithio fydd maes-e o gymorth i ti gyda dy Gymraeg. :winc:

Re: Helo 'na

PostioPostiwyd: Maw 04 Maw 2008 5:44 pm
gan supgav
Llefenni a ddywedodd:Croeso mawr i ti supgav!
Gobeithio wnei di joio yma :D Hei, beth am fynd i Patagonia i wneud dy flwyddyn allan er mwyn siarad cymraeg a trafeilio - bonws!
Beth yw dy ddiddordebau di? Byddi di ar y byrddau chwaraeon neu falle yn y fforwm deledu?
Mae na ddigon o drafod "The Economist" yn edefyn Lost, tymor 4:winc:


Bydda i (siwr yn fod) ar y bwrdd cerddoriaeth... (wi'n dwli ar gerddoriaeth, chwarae 4 offeryn ac wi'n wastraffu'r rhan fwyaf fy arian ar iTunes ;) )
Hefyd, ar y byrddau am yr iaith, wrth gwrs mae'r iaith yn bwysig iawn iawn iawn i mi, ac wi eisiau gweld cymraeg lot mwy yn y dyfodol!
Mae fy niddordebau i'n eang! Felly nid ydw i eisiau fy nghlymu'n lawr! :p

Re: Helo 'na

PostioPostiwyd: Sad 15 Maw 2008 4:07 pm
gan Mali
Croeso i'r maes ! :)

Re: Helo 'na

PostioPostiwyd: Sul 16 Maw 2008 4:17 pm
gan Gwenci Ddrwg
Croeso!

Dysgwr dwi hefyd, ond wyt ti'n ymddangos yn lawer mwy rhugl 'na fi! :lol: Pob lwc 'da dy Gymraeg, mae'n grêt gweld siaradwyr Saesneg ceisio dysgu ieithoedd arall.

Re: Helo 'na

PostioPostiwyd: Mer 26 Maw 2008 10:51 am
gan supgav
Gwenci Drwg a ddywedodd:Croeso!

Dysgwr dwi hefyd, ond wyt ti'n ymddangos yn lawer mwy rhugl 'na fi! :lol: Pob lwc 'da dy Gymraeg, mae'n grêt gweld siaradwyr Saesneg ceisio dysgu ieithoedd arall.


Dw i'n gallu siarad Frangeg eitha da, Swedeg a thipyn bach o Almaeneg hefyd :)
Dw i'n cael rhywbeth naturiol gyda ieithoedd... maen nhw'n dod i mi eitha hawdd =/
Mae'n yr unig peth fy mod i'n gallu wneud yn da! xD

Re: Helo 'na

PostioPostiwyd: Mer 26 Maw 2008 8:44 pm
gan jammyjames60
Cyfarchion mawr i ti supGav, buodd Maes-E o fudd mawr imi gyda gwella fy nghymraeg, felly, gobeithio y gwneith y wefan 'ma'r un peth gyda dy Gymraeg ditha' hefyd.

Re: Helo 'na

PostioPostiwyd: Sad 29 Maw 2008 3:37 pm
gan Gwenci Ddrwg
Dw i'n gallu siarad Frangeg eitha da, Swedeg a thipyn bach o Almaeneg hefyd :)
Dw i'n cael rhywbeth naturiol gyda ieithoedd... maen nhw'n dod i mi eitha hawdd =/
Mae'n yr unig peth fy mod i'n gallu wneud yn da! xD

Croeso i'r clwb. Dwi'n siarad Ffrangeg yn ddigon rhugl (bron pob dydd) a dwi'n gweithio ar Manaweg a Gaeleg yr Alban hefyd.
Dwi wedi bod yn ffaelu popeth arall ers blynyddoedd. :lol: