Haia, pawb!

Adran i aelodau newydd - i ddweud helo neu ofyn cwestiynau
Rheolau’r seiat
Adran i aelodau newydd - i ddweud helo neu ofyn cwestiynau. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Haia, pawb!

Postiogan iagocunedda » Sad 04 Hyd 2008 2:25 pm

S'mae, pawb! Iago dw i. Rwy'n dod o Gaerdydd yn wreiddiol, a fe ddes i 'nôl y haf 'ma i gael nysgu (mae drwg 'da fi mod i'n siarad/sgwennu Cymraeg yn ofnadwy!). Rwy'n astudio Cynllunio Dinesig yn Rhydychen ar hyn o bryd, ac mae arna' eisiau symud 'nôl i Gymru y flwyddyn nesa'. Ac wrth gwrs mod i'n hoffi cwrw, cyfrifiaduron, cerddoriaeth, cerdded, coffi... 'swn i'n hoffi hanes hefyd tasai e'n dechrau gyda llythyren "c". Dw i ddim yn casáu llawer o bethau -- dim ond y Facebook newydd; y geiriau "lico", "lyfio", "ffeindio", "lot o", "just wedi", a "chips"; hysbysebion Saesneg ar S4C; y llywodraeth Prydain (dyma dau resymau i gasáu'r Swyddfa Cartref)... iawn 'te, mewn gwirionedd, llawer o bethau... a wel...
Rhithffurf defnyddiwr
iagocunedda
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 1
Ymunwyd: Sad 04 Hyd 2008 1:09 pm
Lleoliad: Rhydychen

Re: Haia, pawb!

Postiogan Kez » Sad 04 Hyd 2008 3:12 pm

Da dy adnabod a chroeso Iago - croeso cynnes Cymreig, cymdeithasol, cyfrifiadurol, cerddorol, cymen, cynulliedig, cachgiaidd a chas; tebyg iti odw i, ac ma'n gas gen i betha fel facebook, arsebook, titbook, clitbook a chant a mil o bethach eraill and all that jazz - but just go with the flow 8)
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea


Dychwelyd i Croeso a Chyfarchion

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai