Helo’r hen rwdan

Adran i aelodau newydd - i ddweud helo neu ofyn cwestiynau
Rheolau’r seiat
Adran i aelodau newydd - i ddweud helo neu ofyn cwestiynau. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Helo’r hen rwdan

Postiogan Orcloth » Sad 07 Chw 2009 12:52 pm

Wyt ti'n gwybod ym mha flynyddoedd roedd dy fodryb yn dysgu'n rysgol? Ella sa hynny'n fy helpu i drio'i chofio hi - ron i'n rysgol bach rhwng tua 1966 tan tua 1972. Dwi'n cofio mai Mr Richards oedd y prifathro, a'r athrawon dwi'n gofio ydi Miss Howells o Llanddaniel, Mr Elfed Hughes, Mr John Williams a Miss Waters. :D
O'n i wrth fy modd yn mynd i'r disgos ym Mhlas Coch hefyd, ar nos Sadwrn roeddan ni'n mynd - roeddan ni tua 15 oed ac yn cael mynd i mewn yn hawdd (er dy fod i fod yn 21). Lot o hwyl yn dawnsio, yfed yn wirion (Cherry B a Seidar), chwydu dy berfadd allan, yn ol i ddawnsio eto, ac os oeddat ti'n lwcus, snog ar ddiwedd y noson! Dyddiau da!
Rhithffurf defnyddiwr
Orcloth
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 216
Ymunwyd: Mer 01 Hyd 2008 4:31 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: Helo’r hen rwdan

Postiogan penarth » Sad 07 Chw 2009 9:31 pm

Orcloth a ddywedodd:Wyt ti'n gwybod ym mha flynyddoedd roedd dy fodryb yn dysgu'n rysgol? Ella sa hynny'n fy helpu i drio'i chofio hi - ron i'n rysgol bach rhwng tua 1966 tan tua 1972. Dwi'n cofio mai Mr Richards oedd y prifathro, a'r athrawon dwi'n gofio ydi Miss Howells o Llanddaniel, Mr Elfed Hughes, Mr John Williams a Miss Waters. :D
O'n i wrth fy modd yn mynd i'r disgos ym Mhlas Coch hefyd, ar nos Sadwrn roeddan ni'n mynd - roeddan ni tua 15 oed ac yn cael mynd i mewn yn hawdd (er dy fod i fod yn 21). Lot o hwyl yn dawnsio, yfed yn wirion (Cherry B a Seidar), chwydu dy berfadd allan, yn ol i ddawnsio eto, ac os oeddat ti'n lwcus, snog ar ddiwedd y noson! Dyddiau da!


:lol: O weulod calon...dyddia da ar y fennaid i !
Arglwydd mawredd! Discos Amlwch! :ffeit:

Mae fy Modryb Elsi bron yn gant dwi'n meddwl, os oedd hi'n reteirio yn 60 yn 1969 dylit wedi ei nabod. Ond wedyn ella dysgu mewn ysgol arall oedd hi, neu roedd hi wedi reteirio'n gynharach :rolio:
Doniol iawn cofio yn ôl mor bell. Diolch.

Hei! Mae CySill yn rhoi'r lluosog o 'disco' yn 'discoau'! lol
"I'm going to get some fries
I can see it in your eyes"
JimKDaAdtman
Rhithffurf defnyddiwr
penarth
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 19
Ymunwyd: Sad 03 Ion 2009 9:31 pm
Lleoliad: Y Ddaear.......... d'win meddwl...!

Re: Helo’r hen rwdan

Postiogan Orcloth » Sul 08 Chw 2009 3:39 pm

Fysan ni byth yn galw mwy nac un 'disco' yn 'discoau' na fysan? Dim yn Sir Fon beth bynnag! Disgos fyddan nhw am byth! Ia wir, dyddia da oeddan nhw fyd. Dwi'n meddwl lasa dy fod yn dipyn bach fengach na fi, ac yn dod o gyfeiriad Amlwch? Roedd fy ngwr yn arfer mynd allan hefo hogan o Amlwch ers stalwm, ac roedd o'n arfer mynd i'r disgo yn "Trees" radag honno (tua 1978).
Ar ol meddwl am y peth, falla mod i yn cofio dy fodryb yn rysgol Llanfair, oedd hi'n dysgu'r plant lleia tybed? Dwi'n rhyw frith gofio Mrs Roberts yn ein dysgu pan o'n i'n fach iawn, ond tydi rhywun ddim yn cofio'n dda iawn a hitha mor bell yn ol (40 mlynedd a mwy!). Oedd hi'n byw yn un o'r byngalos del ar y ffordd i lawr o'r ysgol am y post offis? Hwyl am y tro! :D
Rhithffurf defnyddiwr
Orcloth
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 216
Ymunwyd: Mer 01 Hyd 2008 4:31 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: Helo’r hen rwdan

Postiogan Mali » Sul 08 Chw 2009 5:53 pm

O mai god ....mae'r atgofion yn llifo ar ôl i mi ddarllen hwn . :lol: 'Roeddem yn mynd a'r garafan Ace Globetrotter i Sir Fôn bob haf , ac yn mynd i'r Star Motel efo'n rhieni am bryd o fwyd, ac i wrando ar Tony [ of Tony ac Aloma fame ] yn canu yn y bar. A dwi'n cofio unwaith ddaru fy chwaer a finna ganu efo fo ....'roeddwn yn hoff iawn o ganu radeg honno. :wps:
Atgofion boreuol llai dymunol o'r cherry b a seidar :P , er 'roedd yn ddiod reit rhad ac yn rhoi lot o hwyl i'r noson ! :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Helo’r hen rwdan

Postiogan Orcloth » Sul 08 Chw 2009 7:38 pm

O, ia, dwi'n cofio gweld Tony'n canu yno hefyd! Ac Eric ac Elwyn, oedd yn canu hefo gitars! Ew, da oeddan nhw hefyd!Tydio'n rhyfadd sut ma rhywun yn cofio ar ol i rhywun arall ddeud? Mmm, dwi'n medru blasu'r Cherry B a'r seidar rwan....... lyfli, doedd? Sgwn i os ti dal yn medru prynu Cherry B? Dwi'm yn meddwl y medrwn yfed gymaint ag o'n i ers stalwm, gwaetha'r modd!
Rhithffurf defnyddiwr
Orcloth
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 216
Ymunwyd: Mer 01 Hyd 2008 4:31 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: Helo’r hen rwdan

Postiogan penarth » Sul 08 Chw 2009 11:12 pm

Orcloth a ddywedodd:Fysan ni byth yn galw mwy nac un 'disco' yn 'discoau' na fysan? Dim yn Sir Fon beth bynnag! Disgos fyddan nhw am byth! Ia wir, dyddia da oeddan nhw fyd. Dwi'n meddwl lasa dy fod yn dipyn bach fengach na fi, ac yn dod o gyfeiriad Amlwch? Roedd fy ngwr yn arfer mynd allan hefo hogan o Amlwch ers stalwm, ac roedd o'n arfer mynd i'r disgo yn "Trees" radag honno (tua 1978).
Ar ol meddwl am y peth, falla mod i yn cofio dy fodryb yn rysgol Llanfair, oedd hi'n dysgu'r plant lleia tybed? Dwi'n rhyw frith gofio Mrs Roberts yn ein dysgu pan o'n i'n fach iawn, ond tydi rhywun ddim yn cofio'n dda iawn a hitha mor bell yn ol (40 mlynedd a mwy!). Oedd hi'n byw yn un o'r byngalos del ar y ffordd i lawr o'r ysgol am y post offis? Hwyl am y tro! :D

Na, Dydw i ddim yn cofio'r Trees, ac 11 oeddwn 1978 :winc:
Dwi'n cofio'r Far Away yng Nghemaes.
Ond bur iawn oedd fy amser o yfad yn wirion, symudais o’r cartref pan oeddwn yn 16, i mewn i gylchoedd gwahanol i'r cylchoedd yfad lleol.
Dwi'n lwcus, fel llawer, dwi'n shwr, na dim ond dau dy tafarn sydd ar ôl yn Llannerchymedd, o'r 53 oedd yno yn wreiddiol ! :lol:
Unai ti'n mynd i'r Twr neu i'r Bull, ac os w ti ddim yn cael mynd i ddim un o honnynt , mae gen ti broblem.

Maen bosib mae dysgu babanod oedd fy Modryb , wi'm bo, roedd hi wedi reteirio pan oeddwn yn tyfu.

Mae gen i gopi o Gwlad y Medra gan John Gwilym (o Lannerchymedd) , llyfr o eiriau yn unigryw o Sir Fôn, un da hefyd, er tybiwn fod neb yng Nghymru yn defnyddio 'Discoau'.
"I'm going to get some fries
I can see it in your eyes"
JimKDaAdtman
Rhithffurf defnyddiwr
penarth
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 19
Ymunwyd: Sad 03 Ion 2009 9:31 pm
Lleoliad: Y Ddaear.......... d'win meddwl...!

Re: Helo’r hen rwdan

Postiogan Mali » Llun 09 Chw 2009 12:34 am

Orcloth a ddywedodd:O, ia, dwi'n cofio gweld Tony'n canu yno hefyd! Ac Eric ac Elwyn, oedd yn canu hefo gitars! Ew, da oeddan nhw hefyd!Tydio'n rhyfadd sut ma rhywun yn cofio ar ol i rhywun arall ddeud? Mmm, dwi'n medru blasu'r Cherry B a'r seidar rwan....... lyfli, doedd? Sgwn i os ti dal yn medru prynu Cherry B? Dwi'm yn meddwl y medrwn yfed gymaint ag o'n i ers stalwm, gwaetha'r modd!


He he ....falch o weld rhywun arall ar maes-e yn defnyddio'r term 'ers stalwm' .... :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Nôl

Dychwelyd i Croeso a Chyfarchion

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron