Orcloth a ddywedodd:Ia, mi es i i ddisgo yno unwaith neu ddwy - dawns clwb motobeic oedd un, a dawns i groesawu sowldiwr o Star, a oedd di bod yn y Falklands, oedd y llall. Ewadd, da ni'n siarad blynyddoedd maith yn ol rwan!
O'n i'n arfar mynd i ysgol Llanfair, sgwn i os oedd dy Anti Elsi yn fy nysgu i? Fatha "Miss" rwbath fysa ni'n ei galw hi maen siwr! Byddi di'n dod drosodd i Sir Fon o hyd?
Mae'n braf cael siarad hefo rhywun sy'n cofio'r ardal yn dda! Hwyl am y tro, Penarth.
Dychwelyd i Croeso a Chyfarchion
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai