Orcloth a ddywedodd:Fysan ni byth yn galw mwy nac un 'disco' yn 'discoau' na fysan? Dim yn Sir Fon beth bynnag! Disgos fyddan nhw am byth! Ia wir, dyddia da oeddan nhw fyd. Dwi'n meddwl lasa dy fod yn dipyn bach fengach na fi, ac yn dod o gyfeiriad Amlwch? Roedd fy ngwr yn arfer mynd allan hefo hogan o Amlwch ers stalwm, ac roedd o'n arfer mynd i'r disgo yn "Trees" radag honno (tua 1978).
Ar ol meddwl am y peth, falla mod i yn cofio dy fodryb yn rysgol Llanfair, oedd hi'n dysgu'r plant lleia tybed? Dwi'n rhyw frith gofio Mrs Roberts yn ein dysgu pan o'n i'n fach iawn, ond tydi rhywun ddim yn cofio'n dda iawn a hitha mor bell yn ol (40 mlynedd a mwy!). Oedd hi'n byw yn un o'r byngalos del ar y ffordd i lawr o'r ysgol am y post offis? Hwyl am y tro!
Na, Dydw i ddim yn cofio'r Trees, ac 11 oeddwn 1978
Dwi'n cofio'r Far Away yng Nghemaes.
Ond bur iawn oedd fy amser o yfad yn wirion, symudais o’r cartref pan oeddwn yn 16, i mewn i gylchoedd gwahanol i'r cylchoedd yfad lleol.
Dwi'n lwcus, fel llawer, dwi'n shwr, na dim ond dau dy tafarn sydd ar ôl yn Llannerchymedd, o'r 53 oedd yno yn wreiddiol !
Unai ti'n mynd i'r Twr neu i'r Bull, ac os w ti ddim yn cael mynd i ddim un o honnynt , mae gen ti broblem.
Maen bosib mae dysgu babanod oedd fy Modryb , wi'm bo, roedd hi wedi reteirio pan oeddwn yn tyfu.
Mae gen i gopi o Gwlad y Medra gan John Gwilym (o Lannerchymedd) , llyfr o eiriau yn unigryw o Sir Fôn, un da hefyd, er tybiwn fod neb yng Nghymru yn defnyddio 'Discoau'.