Re: Helo’r hen rwdan
Postiwyd: Sad 07 Chw 2009 12:52 pm
Wyt ti'n gwybod ym mha flynyddoedd roedd dy fodryb yn dysgu'n rysgol? Ella sa hynny'n fy helpu i drio'i chofio hi - ron i'n rysgol bach rhwng tua 1966 tan tua 1972. Dwi'n cofio mai Mr Richards oedd y prifathro, a'r athrawon dwi'n gofio ydi Miss Howells o Llanddaniel, Mr Elfed Hughes, Mr John Williams a Miss Waters.
O'n i wrth fy modd yn mynd i'r disgos ym Mhlas Coch hefyd, ar nos Sadwrn roeddan ni'n mynd - roeddan ni tua 15 oed ac yn cael mynd i mewn yn hawdd (er dy fod i fod yn 21). Lot o hwyl yn dawnsio, yfed yn wirion (Cherry B a Seidar), chwydu dy berfadd allan, yn ol i ddawnsio eto, ac os oeddat ti'n lwcus, snog ar ddiwedd y noson! Dyddiau da!