Tudalen 1 o 2

Crysau t cymraeg ?

PostioPostiwyd: Llun 16 Chw 2009 3:00 pm
gan pontyaled
Siwd mae ?
Oes gan unrhywun awgrymiadau ar gyfer prynnu crysau t cymraeg arlein ?

Diolch

Re: Crysau t cymraeg ?

PostioPostiwyd: Llun 16 Chw 2009 6:11 pm
gan dafyddpritch
Cowbois, genai un neu ddau a ma nhw yn cwl. Genny nhw dueddiad i neud rhei sy'n gweithio yn ddwy ieithog ddo, sydd yn gneud nhw yn Saesneg rili...

Hooligan
Eejit
Cymru 22 - 15 England
ayyb

http://www.cowbois.com/

Re: Crysau t cymraeg ?

PostioPostiwyd: Llun 16 Chw 2009 6:19 pm
gan Dai dom da

Re: Crysau t cymraeg ?

PostioPostiwyd: Llun 16 Chw 2009 7:36 pm
gan Hedd Gwynfor

Re: Crysau t cymraeg ?

PostioPostiwyd: Maw 17 Chw 2009 1:40 am
gan Duw
Hedd - a oes cynlluniau i werthu crysiau-t maes-e.com?? Trueni stim un o'r uchod yn cynnig gwasanaeth gynllunio arlein fel rhai o gwmnie Lloegr, gweddill Ewrop ac America.
Delwedd

Re: Crysau t cymraeg ?

PostioPostiwyd: Maw 17 Chw 2009 11:17 am
gan pontyaled
Diolch am yr awgrymiadau - nai edrych ar y safleoedd i weld y crysau t :)

Nes i weld y wefan yma hefyd sydd gyda lwyth o grysau da

http://www.crysaut.co.uk

Re: Crysau t cymraeg ?

PostioPostiwyd: Maw 17 Chw 2009 4:52 pm
gan sian-eleri jones
Rydw i newydd darganfod y wefan newydd yma...

http://www.crysaut.co.uk/

mae llawer o ddewis ac am bris rhesymol.

roeddwn i'n hoff iawn o'r crysau-t anifeiliaid ond mae f mab yn hoffi ceffylau, felly cysylltiais i a'r siop, awgrymu'r syniad ac ym mhen dim roedd yna crys-t adas ar y wefan! felly mae'r siop yn hyblyg hefyd!

Rwy'n argymyll y siop yma nawr i bawb!!!!

Re: Crysau t cymraeg ?

PostioPostiwyd: Maw 17 Chw 2009 6:17 pm
gan Duw
Dyw e ddim cystal a'r ddau arall - dal dim dyluniwr arlein chwaith. Siomedig.

Re: Crysau t cymraeg ?

PostioPostiwyd: Llun 08 Meh 2009 2:02 pm
gan Awen92
Llawer o grysiau T Cymraeg yma!

http://www.thereddragonhood.com/

Re: Crysau t cymraeg ?

PostioPostiwyd: Llun 08 Meh 2009 2:15 pm
gan Duw
Dyna wefan rhyfedd! Ti 'di weld y peidiwch â gwasgu'r botwm? Busnes yw hwn neu joc? Eto dim cynlluniwr ar-lein. :?