Tudalen 1 o 1

S'mae

PostioPostiwyd: Sad 07 Maw 2009 11:35 pm
gan Karl
Prynhawn da!

Karl ydw i. Rydw i'n ymddiheuro - rydw i'n siarad Cymraeg = nag oes da iawn (amlwg :wps: ). Rydw i'n dysgu! Diolch amineddgar.

Rydw i'n hapus cwrdd pawb. :D

Re: S'mae

PostioPostiwyd: Sad 07 Maw 2009 11:47 pm
gan Duw
Croeso Karl, neis i gael ti yma. Mwynha - a phaid â becso am fod yn ddysgwr - mae iaith y rhan fwyaf ohonom yn llai na pherffaith. Joio yw name of the game.

Re: S'mae

PostioPostiwyd: Sul 08 Maw 2009 1:34 am
gan Dr Strangelove
dwi'n siaradwr cymraeg iaith gynta' a ma cymraeg fi'n warthus so paid poeni :D

Re: S'mae

PostioPostiwyd: Sul 08 Maw 2009 2:48 am
gan Mali
Croeso i maes-e Karl ! :)
Braf gweld aelodau newydd ar y maes....

Re: S'mae

PostioPostiwyd: Sul 08 Maw 2009 6:10 pm
gan Karl
Diolch pawb! :D

Croeso = brav, rydw i'n hapus (hapus ydw i?) yma. Yma, amser = dysgu. A pawb brav. :gwyrdd:

Diolch yn fawr!

Re: S'mae

PostioPostiwyd: Sad 14 Maw 2009 4:15 pm
gan Arthur
Karl a ddywedodd:Prynhawn da!

Karl ydw i. Rydw i'n ymddiheuro - rydw i'n siarad Cymraeg = nag oes da iawn (amlwg :wps: ). Rydw i'n dysgu! Diolch amineddgar.

Rydw i'n hapus cwrdd pawb. :D

Prynhawn da Karl-ffordd dda i chdi helpu dysgu Cymraeg fysa prynu box set y grwp Datblygu-Mae'r geiriau mewn llyfryn gyda fo yng Nghymraeg a Saesneg.Bysa chdi'n pigo geiriau cymraeg i fyny y ffordd yna.

Re: S'mae

PostioPostiwyd: Llun 08 Meh 2009 1:57 pm
gan Awen92
Helo Karl, dysgwyr dwi hefyd! Mae'n neis i wybod bod rhywun arall sy ddim yn rhugl hefyd :D

Arthur a ddywedodd:Prynhawn da Karl-ffordd dda i chdi helpu dysgu Cymraeg fysa prynu box set y grwp Datblygu-Mae'r geiriau mewn llyfryn gyda fo yng Nghymraeg a Saesneg.Bysa chdi'n pigo geiriau cymraeg i fyny y ffordd yna.


Dwi'n cytuno!
Mae'r box set Datblygu wedi bod yn gret i hybu fy Nghymraeg.
Un peth- Pryna ar-lein, dim mewn dy HMV lleol, neu bydd rhaid i ti aros am fisoedd amdano fe....

Un can mod i'n awgrymu yn enwedig- Maes E, gan Datblygu,
Wedyn, byddi di'n gweld o ble mae teitl y wefan 'ma yn dod!

Re: S'mae

PostioPostiwyd: Llun 08 Meh 2009 2:08 pm
gan Awen92
Karl- cwrs Cymraeg mod i'n awgrymu-

http://www.saysomethinginwelsh.com

Mae hi wedi bod yn chwyldro am fy Nghymraeg. :D