Dwi di bod yn meddwl am hyn. Os ydi Duw yn medru ffendio rhyw ffordd i roi Ynys Mon ar y map tywydd i ni (plis, plis, crafu, crafu D!), fysa rhywun hefo diddordeb mewn dechra edefyn arbennig er mwyn clodfori Duw (un ni nid yr un nefolaidd!!!)?
Mi ydan ni i gyd, dwi'n siwr, yn ein ffyrdd bach ein hunain, yn ddiolchgar iawn iddo am yr holl waith mae o wedi'i wneud ar y maes ers misoedd (blynyddoedd hefyd am wn i) bellach. Meddwl fysa hyn yn ffordd dda o ddweud "diolch" ar dudalen arbennig yn ei enw fo!
Dwi di bod yn trio meddwl am enw i'r grwp newydd yma o ffyddlonwyr - be am "Seiat Addoli Duw" - SAD?!!!!