Tudalen 1 o 1

Shwmae

PostioPostiwyd: Llun 08 Meh 2009 1:50 pm
gan Awen92
Helo, Awen dwi, ac dw i'n newydd yma.
Dwi'n byw yn Abernant (bournemouth), ac dwi o hyd yn dysgu- Mae drwg da fi os dw i'n dweud rhywbeth yn anghywir!
Dwi'n gwneud fy lefelau A mewn Gwyddoniaeth ar hyn o bryd, a dwi'n bwriadu mynd i Brifysgol Caerdydd y flwyddyn nesa.
Bydd hi'n neis i gael ymarfer sgwennu yma. :D

Re: Shwmae

PostioPostiwyd: Mer 10 Meh 2009 3:08 am
gan Mali
Helo Awen ! Croeso i maes-e....mae hi wastad yn braf gweld maeswyr newydd yn ymuno a'r 'hen' griw . :winc: :D

Re: Shwmae

PostioPostiwyd: Mer 10 Meh 2009 7:27 am
gan sian
Helo Awen
Ydi dy arholiadau di bron â gorffen?
Sut wyt ti wedi bod yn dysgu Cymraeg? Oes gen ti rywun i siarad â nhw yn Bournemouth?

Re: Shwmae

PostioPostiwyd: Mer 10 Meh 2009 3:45 pm
gan Awen92
Ydyn diolch byth! Dim ond mathemateg pellach i fynd.
Dw i wedi bod yn defnyddion cwrsau ar lein yn y rhafn fwyaf, fel BBC Catchphrase, a SaysomethinginWelsh.com (hynny'n newydd ac yn wych!)
Ydy, mae rhywun o Aberteifi 'da fi i siarad â bob ail mis, mae hi'n byw yma yn Abernant, (ydy Abernant y term Cymraeg iawn am Bournemouth?) ac dwi'n siarad â bobl ar Skype yn amal hefyd.

Re: Shwmae

PostioPostiwyd: Iau 11 Meh 2009 3:19 pm
gan Cyfrifiadur
Darllenwr ers hir ond aelod newydd yma felly onin meddwl swnin deud helo :)

Re: Shwmae

PostioPostiwyd: Iau 11 Meh 2009 5:03 pm
gan Mali
Wel , helo ! A chroeo i maes-e . :D