Tudalen 1 o 1

Helo, s'mae pawb

PostioPostiwyd: Gwe 13 Tach 2009 12:34 am
gan dghughes82
David Hughes yw fy enw i - dwi'n dod o St. Helens, [rhwng Manceinion a Lerpwl], yn wreiddiol, ond o'n i'n byw yng Nghymru ers tua naw mlynedd nawr - astudiais i ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, ac wedyn, symudais i lawr i Gaerdydd. Dechreuis i ddysgu Cymraeg tua dwy flynedd yn ol - dwi'n meddwl mod dwi'n gallu dallt yr iaith yn iawn pan dwi'n gwrando i rhywun sy'n siarad Cymraeg, ond mae'n anodd i mi i ateb yn y Gymraeg. Mae cwpl o ffrindiau gyda fi sy'n siarad Cymraeg wedi dweud pethau fel "Ti'n gallu siarad Cymraeg yn dda nawr, ond ti angen mwy o hyder.." i fi. Yn anffodus, dw i ddim yn nabod lot o bobl sy'n siarad Cymraeg. Dwi'n meddwl mod mae angen i mi trio siarad mwy o Gymraeg tu allan y dosbarth - Felly, dw i eisiau cwrdd a mwy o bobl sy'n siarad yr iaith i helpu fi dysgu - byddai'n diolchgar iawn.

Re: Helo, s'mae pawb

PostioPostiwyd: Gwe 13 Tach 2009 3:58 am
gan Mali
Helo David ! Da gweld aelod newydd yn postio .
Croeso i maes-e . :D Enw da Hughes gyda llaw . 8)