Dysgu geiriau newydd yn sydun

Adran i aelodau newydd - i ddweud helo neu ofyn cwestiynau
Rheolau’r seiat
Adran i aelodau newydd - i ddweud helo neu ofyn cwestiynau. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Dysgu geiriau newydd yn sydun

Postiogan robin hughes » Sul 17 Ion 2010 5:20 pm

Cyn I mi ddod yn ol i fyw y ngnghymru yr oeddwn yn gweithio mewn ysgolion yn lloegr ac yn defnyddio dull arbennig i ddysgu rhywbeth yn sydyn a byth anghofio chwaith! Yr enw ydi Accelerated learning yn saesneg. Ydi'r gair CHWIM-DDYSG yn air da i'r dull yma.?
Yr wyf yn defnyddio y dull yma i ddygu geiriau newydd yn yr iaith, Os wnewch i gymyd Y gair FAGDDU yr wyf yn medru gwneud llun yn fy meddwl o ddyn mewn ogof yn codi ysbwriel men ogof yn y tywyllwch! Mae ganddo FAg DDu yn ei law achos mae ef yn y fagddu! Yr wyf yn medru dysgu gair newydd mewn rhyw iaith bob munud! Mi welais brawddeg diwrnod o'r blaen yn dweud- Tagfeydd yn debygol ar y lon! Yn saesneg yr oedd y geiriau 'queues likely"! ond yn y geiriadur ar ol edrych am "Queue" y mae y gair ciw! Beth sydd yn mynd ymlaen. Oes rywin eisiau gwybod am y dull diddorol yma? Hwyl i chi i gyd. Yr hwn ydi'r ail waith erioed i mi ysgrifennu yn gymraeg.. Yr ydych yn meddwl bod o'n ddigon da i ddangos ar maes-e? Robin
robin hughes
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 8
Ymunwyd: Sul 17 Ion 2010 1:26 pm

Re: Dysgu geiriau newydd yn sydun

Postiogan dawncyfarwydd » Sul 17 Ion 2010 7:24 pm

Mae hwnna'n swnio fel dull da a difyr iawn o ddysgu iaith. Mi fu'n rhaid i mi geisio dysgu Groeg ryw flwyddyn neu ddwy yn ôl, ac roeddwn i'n ceisio gwneud y math yma o gysylltiadau rhwng geiriau - nid yn gymaint delweddau fel wyt ti'n ddefnyddio, ond cofio sŵn rhan o air oedd yn fy atgoffa o air yn Gymraeg neu Saesneg. Roedd gen i fantais oherwydd bod dylanwad Groeg i'w gweld ar lawer o'n geiriau ni; mae gen ti fantais am fod dy Gymraeg di yn hen ddigon da yn barod.

Does dim angen i ti boeni o gwbwl am safon dy iaith - does gen ti ddim problem a sgwennu llawer yn Gymraeg ydi'r ffordd i wella ymhellach. Pob hwyl iti.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...


Dychwelyd i Croeso a Chyfarchion

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron