Tudalen 1 o 1

Santes Dwynwen

PostioPostiwyd: Llun 25 Ion 2010 11:42 am
gan Orcloth
Diwrnod Santes Dwynwen hapus iawn i chi i gyd - ches i'm byd gan neb, run fath a bob blwyddyn, ond dyna fo! Sws fawr i chi i gyd eniwe!

Un peth bach dwi di ffendio allan ar gwgl, bod Blwyddyn Newydd y Tseiniaid (y teigr tro yma) yn syrthio ar yr un diwrnod a Sant Ffolant flwyddyn yma. O wel..... meddwl fyswn i'n rhannu hynny hefo chi, na'i gyd..... :rolio:

Re: Santes Dwynwen

PostioPostiwyd: Maw 26 Ion 2010 5:02 pm
gan Mali
Helo 'na ! :) Gefais inna ddim byd chwaith , a ddim yn hyd yn oed wedi sylweddoli ei bod hi'n ddiwrnod Santes Dwynwen tan amser swper. :(
Eniwê, gobeithio gefaist ti ddiwrnod golew....

Re: Santes Dwynwen

PostioPostiwyd: Mer 27 Ion 2010 9:42 am
gan Orcloth
Haia Mali, ti'n olew ers stalwm? :D Do, ges i ddiwrnod golew, run fath ag arfer, wsti... dim byd newydd! :rolio:

Re: Santes Dwynwen

PostioPostiwyd: Mer 10 Chw 2010 1:34 pm
gan Orcloth
Y? Prawf o be, dwad? :?

Re: Santes Dwynwen

PostioPostiwyd: Iau 11 Chw 2010 3:17 am
gan Mali
Dwi ddim yn gwybod chwaith . :? Y tro diwethaf i mi edrych ar yr edefyn yma ,'roedd fy neges uchod wedi diflannu ! :ing:

Re: Santes Dwynwen

PostioPostiwyd: Iau 11 Chw 2010 9:12 am
gan Orcloth
O Iesgob annwyl, be sy'n mynd ymlaen yma? Mae neges Hedd oedd yn deud "PRAWF" wedi diflannu, felly mae 'nghwestiwn blaenorol i'n swnio'n stiwpid rwan........ :? Mae rhywun yn chwarae tricia dwi'n meddwl......

Re: Santes Dwynwen

PostioPostiwyd: Iau 11 Chw 2010 9:18 am
gan Orcloth
Ar ol darllen yr edefyn "Problemau gyda maes-e", dwi'n tybio mai testio petha allan mae'r hogia, felly dim chwarae tricia mae nhw..... sori, ond nes i gam-ddallt! :wps: