Tudalen 1 o 1

Dysgwr Cymraeg dw i.

PostioPostiwyd: Sad 12 Maw 2011 2:14 am
gan Chris Davies
Helo pawb,
Chris ydy fy enw i. Dw i'n dod o Wirral, Lloegr, dim ond 15 milltir o'r border Cymreig. Hoffwn i siarad ac ysgrifennu'r iaith, heb cyfieithwr!
Dw i wedi dysgu am un blwyddyn, felly esgusodwch fy ngramadeg drwg, plis!

Re: Dysgwr Cymraeg dw i.

PostioPostiwyd: Sad 12 Maw 2011 2:01 pm
gan Manon
Croeso i'r maes, Chris 8)

Re: Dysgwr Cymraeg dw i.

PostioPostiwyd: Sad 12 Maw 2011 2:43 pm
gan sian
Helo Chris.

Wyt ti'n nabod Neil? Dw i'n meddwl ei fod e'n byw ar y Wirral (Cilgwri) hefyd ac yn siarad Cymraeg.

Fuodd fy ngŵr yn pregethu mewn capel Cymraeg yn Birkenhead tua 10 mlynedd yn ôl.
Ydi e'n dal ar agor?

Re: Dysgwr Cymraeg dw i.

PostioPostiwyd: Sad 12 Maw 2011 4:19 pm
gan Chris Davies
Wel, fy ewythr ydy Neil Davies, ond mae o dim yn siarad Cymraeg. Person gwahanol, dw i'n meddwl.
Mae capel Cymraeg dal yn sefyll yn Birkenhead heddiw, ond dw i ddim yn gwybod os mae o'n ar agor.

Re: Dysgwr Cymraeg dw i.

PostioPostiwyd: Sad 12 Maw 2011 7:50 pm
gan Hedd Gwynfor
Croeso i'r Maes Chris. :D Dyma flog Cymraeg Neil Wyn Jones o Cilgwri (Wirral) - http://cleciaucilgwri.blogspot.com/

Re: Dysgwr Cymraeg dw i.

PostioPostiwyd: Sul 13 Maw 2011 4:30 pm
gan Cynfael
Croeso! Rwy'n dysgwr hefyd a mewn swydd Gaer ar hyn o bryd hefyd. Mwynhewch y maes!

Re: Dysgwr Cymraeg dw i.

PostioPostiwyd: Sul 13 Maw 2011 5:52 pm
gan Mali
Croeso cynnes i ti i'r maes Chris . :D