S'mae,
Asia ydwi, dwi'n dod o Wlad Pwyl ac, yn y diwedd, ar ol imi fod yn dysgu Cymraeg ers tair blynedd a hanner, dwi wedi penderfynnu i ymuno a chi.
Dwi'n dod o, ac yn byw yn, Poznań, dinas mawr yng Ngorllewin Gwlad Pwyl. Dwi'n hoff iawn o gerddoriaeth, dechreuais i wrando ar gerddoriaeth Gymraeg yn fwy eleni, dwi'n hoff iawn o Elin Fflur, Fflur Dafydd, Sen Segur, Yucatan a Meilir ar hyn o bryd ac mae 'na llawero fandiau eraill dwi'n licio.
Dwi'n hoffi llenyddiaeth hefyd, yn enwedig llyfrau ffantasi a ffuglen wyddonol (mae awduron Pwylaidd yn dda iawn am ysgrifennu llyfrau fel 'ma, siwr o fod, felly os hoffech chi ddarllen unrhyw beth ohonyn nhw... )
Ar wahan i Gymraeg, dwi'n dysgu Gwyddeleg hefyd, ond dydwi ddim yn gallu dysgu'r iaith hon, rhyfedd, on'd ydy?
Dwi'n ffan mawr o bopeth Cymreig a dwi'n gobethio gallwn i ymweld a Chymru'n fuan.
Oce, digon amdana i, os oes unrhyw gwestiwn gynnoch chi, bydda i'n fodlon i'w hateb nhw i gyd
Hwyl am y tro!