Tudalen 1 o 1

S'mae, pawb!

PostioPostiwyd: Mer 28 Rhag 2011 9:13 am
gan asiarybelska
S'mae,

Asia ydwi, dwi'n dod o Wlad Pwyl ac, yn y diwedd, ar ol imi fod yn dysgu Cymraeg ers tair blynedd a hanner, dwi wedi penderfynnu i ymuno a chi.

Dwi'n dod o, ac yn byw yn, Poznań, dinas mawr yng Ngorllewin Gwlad Pwyl. Dwi'n hoff iawn o gerddoriaeth, dechreuais i wrando ar gerddoriaeth Gymraeg yn fwy eleni, dwi'n hoff iawn o Elin Fflur, Fflur Dafydd, Sen Segur, Yucatan a Meilir ar hyn o bryd ac mae 'na llawero fandiau eraill dwi'n licio.
Dwi'n hoffi llenyddiaeth hefyd, yn enwedig llyfrau ffantasi a ffuglen wyddonol (mae awduron Pwylaidd yn dda iawn am ysgrifennu llyfrau fel 'ma, siwr o fod, felly os hoffech chi ddarllen unrhyw beth ohonyn nhw... ;))

Ar wahan i Gymraeg, dwi'n dysgu Gwyddeleg hefyd, ond dydwi ddim yn gallu dysgu'r iaith hon, rhyfedd, on'd ydy? :)

Dwi'n ffan mawr o bopeth Cymreig a dwi'n gobethio gallwn i ymweld a Chymru'n fuan.

Oce, digon amdana i, os oes unrhyw gwestiwn gynnoch chi, bydda i'n fodlon i'w hateb nhw i gyd :)

Hwyl am y tro!

Re: S'mae, pawb!

PostioPostiwyd: Mer 11 Ion 2012 5:21 pm
gan Nanog
Mae dy Gymraeg di'n ardderchog. Wyt ti'n gobeithio dod i weithio yma neu jysd ymweld a'r lle am wyliau neu beth bynnag?

Re: S'mae, pawb!

PostioPostiwyd: Iau 12 Ion 2012 6:12 pm
gan Sioni Size
Helo Asia,

Wyt ti wedi dy addysgu ym Mhrifysgol Poznan? Rwy'n gwybod fod adran Gymraeg gryf yno. Ac os wyt yn y brifysgol o hyd rwy'n nabod darlithwr a thiwtor sydd wedi dechrau ers mis Awst yno. Wedi clywed si fod Yucatan yn chwarae yn Poznan rhywben yn fuan. Wyt ti wedi clywed hyn?

Re: S'mae, pawb!

PostioPostiwyd: Sad 25 Chw 2012 12:26 pm
gan asiarybelska
@ Nanog

Diolch i ti, dwi'n gwneud fy ngorau glas i wella fy Nghymraeg. Y peth gorau, dwi'n credu, byddai imi ddod i Gymru am ychydig o amser, efallai gallwn wneud hynny y gwyliau 'ma, ond mae popeth yn dibynnu ar fy mhrifysgol i: dwi'n gobeithio bydd 'na arian ar gael i fi a'm ffrindiau o'r grwp Celtaidd. Ac os bydd 'na swydd ar gael wedyn, pam lai? Ond dwi eisiau gorffen f'astudiaethau yn gynt.


@ Sioni Size

Dwi ddim wedi gorffen eto, dwi'n gwneud fy MA (Blwyddyn 4)
(Owen efallai?) :)
Dwi wedi clywed y bydden nhw'n dod rywbryd cyn neu ar ol y Pasg, ond dwi ddim yn credu bod 'na nod swyddogol eto. Oes 'na?

Re: S'mae, pawb!

PostioPostiwyd: Mer 21 Maw 2012 2:57 pm
gan Sioni Size
Owen yn wir.

Wel Asia, rwyf wedi clywed fod Yucatan am ddod yna rhywbryd fis Mai. Gobeithio fydd na fwy o fandiau yn medru dod hefyd.

Re: S'mae, pawb!

PostioPostiwyd: Sul 25 Maw 2012 12:42 pm
gan asiarybelska
Diolch am roi gwybod i mi, byddai'n wych cael mwy o fandiau Cymreig ym Mhoznań!

Re: S'mae, pawb!

PostioPostiwyd: Mer 28 Maw 2012 6:21 pm
gan asiarybelska
Gyda llaw, dywedoddun o'm ffrindiau, sy'n ffrind i un o aelodau Yucatan, bod nhw eisiau dod i Boznań yn ystod Euro 2012. Efallai hoffech chi ddod hefyd? :)

Re: S'mae, pawb!

PostioPostiwyd: Sul 27 Mai 2012 1:13 am
gan asiarybelska
Dwi ddim yn siwr os oes angen ysgrifennu eto, ond gadewch i mi rannu newyddion da:

1. Dwi yn mynd i Gymru yn ystod y gwyliau hyn
2. Bydd Yucatan yng Ngwlad Pwyl ar ddechrau mis Awst (yn ol prifleisydd y band).

Hwre triphlyg oddi wrtha i!