Wel helô! Rhag ofn i chi fethu sylwi arni wrth ddarllen y neges hon, dw i'n ddysgwr y Gymraeg (ers y llynedd). Yn anffodus dw i'n byw yn Lloegr, lle mae llwyth o droseddwyr mewn grym, yn fy marn bach i, a does neb eisiau sefyll i fyny dros y GIG. …Neu o leiaf, does gynnon ni ddim cynulliad datganoledig sy'n medru ein gwarchod ni rhag polisïau gwirion Llywodraeth y DU, sydd yn llwyth o droseddwyr, heb os. (All unrhyw un fy atgoffa i beth ydy pwynt y sefydliad hwnnw, gyda llaw?)
Hmm.
Wel, sut oeddech chi'n disgwyl i ddysgwr gyflwyno ei hun? "Peter ydy f'enw i, dw i'n byw ger Manceinion, dw i'n hoffi coffi. Wyt ti'n dod yma yn aml?"?
Eniwê, dw i'n chwilio am unrhyw gyfle i ddefnyddio fy iaith newydd (a chwyno am bethau yn Lloegr, a dweud y gwir). Braf eich cyfarfod chi. Ydach chi eisiau sgwrsio am faterion digri fel y damwain trên a elwir hefyd San Steffan?