Tudalen 1 o 1

Cyfarchion o Fanceinion

PostioPostiwyd: Maw 27 Maw 2012 9:35 pm
gan ailisradd
Wel helô! Rhag ofn i chi fethu sylwi arni wrth ddarllen y neges hon, dw i'n ddysgwr y Gymraeg (ers y llynedd). Yn anffodus dw i'n byw yn Lloegr, lle mae llwyth o droseddwyr mewn grym, yn fy marn bach i, a does neb eisiau sefyll i fyny dros y GIG. …Neu o leiaf, does gynnon ni ddim cynulliad datganoledig sy'n medru ein gwarchod ni rhag polisïau gwirion Llywodraeth y DU, sydd yn llwyth o droseddwyr, heb os. (All unrhyw un fy atgoffa i beth ydy pwynt y sefydliad hwnnw, gyda llaw?)

Hmm.

Wel, sut oeddech chi'n disgwyl i ddysgwr gyflwyno ei hun? "Peter ydy f'enw i, dw i'n byw ger Manceinion, dw i'n hoffi coffi. Wyt ti'n dod yma yn aml?"?

Eniwê, dw i'n chwilio am unrhyw gyfle i ddefnyddio fy iaith newydd (a chwyno am bethau yn Lloegr, a dweud y gwir). Braf eich cyfarfod chi. Ydach chi eisiau sgwrsio am faterion digri fel y damwain trên a elwir hefyd San Steffan? :gwyrdd:

Re: Cyfarchion o Fanceinion

PostioPostiwyd: Mer 28 Maw 2012 6:26 pm
gan asiarybelska
Croeso i gyd-ddysgwr, pob lwc efo dy Gymraeg a mwynha dy hun yn y fan 'ma!

Re: Cyfarchion o Fanceinion

PostioPostiwyd: Mer 28 Maw 2012 10:24 pm
gan ailisradd
Diolch Asia! Ti'n astudio'r Gymraeg yn Ngwlad y Pwyl? (Wedi bod yn busnesu ar y fforwm yn barod!) Do'n i ddim wedi sylweddoli bod cymaint o ddiddordeb mewn y Gymraeg yno. Pob llwyddiant i ti hefyd 8)

Ond rŵan, lle mae'r sîn Gymraeg dw i wedi clywed sôn amdani? Mae hynny'n f'atgoffa i: rhaid i mi fynd i'r Saith Seren newydd yn Wrecsam yn fuan. Mae gigs ardderchog wedi bod yn barod, ac mae'n jyst dros y ffin, ond yn anffodus do'n i ddim yn rhydd pan ddigwyddon nhw… :(